â â â Y Cariad a Wrthodwyd
1â â â Drud yr adwaenwn dy dro,
2â â â Gwen gynhinen, gyn heno.
3â â â Mae i'm bryd, ennyd ynni,
4â â â Aml ei thwyll, ymliw â thi,
5â â â Morfudd ferch Fadawg Lawgam,
6â â â Myn y Pab, mi a wn pam
7â â â Y'm gadewaist ar feiston
8â â â Yn weddw hyll yn y wedd hon.
9â â â Tra ellais, ni wydiais wawd,
10â â â Dirprwyo dy wr priawd,
11â â â Caredd hawl, caruaidd hud,
12â â â Cerydd fi, oni'm carud?
13â â â Bellach myfi a ballawdd,
14â â â O glwyf blin wyf heb le nawdd.
15â â â Ar dy fryd, cedernyd cur,
16â â â Ai da y sigl y du segur?
17â â â Symudaist fi, som ydiw,
18â â â Seren oleuwen o liw,
19â â â Megis y gwr, gyflwr gau,
20â â â Ac iddo dan y gweddau
21â â â Deubar o ychen diball
22â â â Wrth yr un aradr cadr call.
23â â â Od ardd 'y ngran graeanfylch,
24â â â Dalar gwydd, ef deily ar gylch
25â â â Heddiw y naill, hoywdduw Naf,
26â â â Yfory'r llall oferaf,
27â â â Mal y gwnair, gurair gerydd,
28â â â Chwarae â phêl, fy chwaer ffydd:
29â â â Hoff wyd, dilynwyd dy lun
30â â â O-law-i-law, loyw eilun.
31â â â Hir ddoniau, bryd hardd annwyl,
32â â â Hyn yw dy fryd, hoen Dyfr wyl.
33â â â Ysgwïer gwyw ei ddwywisg,
34â â â A'r rhain cyn dynned â'r rhisg,
35â â â Nofies o'r blaen yn nwyfwydn
36â â â Heb dâl, gyfnewidial wydn.
37â â â A wnêl y da dan fedwgoed,
38â â â O myn y dyn, i mewn doed,
39â â â Ac a'i gwnaeth, brodoriaeth braw,
40â â â Aed allan wedi'i dwyllaw.
41â â â Bid edifar dy garu,
42â â â Bwriaist fi, byr o wst fu.
43â â â Ys gwir y bwrir baril,
44â â â Ysgwd, pan fo gwag, is gil.