| Y Cariad a Wrthodwyd | |
| Drud yr adwaenwn dy dro, | |
| Gwen gynhinen, gyn heno. | |
| Mae i'm bryd, ennyd ynni, | |
| 4 | Aml ei thwyll, ymliw â thi, |
| Morfudd ferch Fadawg Lawgam, | |
| Myn y Pab, mi a wn pam | |
| Y'm gadewaist ar feiston | |
| 8 | Yn weddw hyll yn y wedd hon. |
| Tra ellais, ni wydiais wawd, | |
| Dirprwyo dy ŵr priawd, | |
| Caredd hawl, caruaidd hud, | |
| 12 | Cerydd fi, oni'm carud? |
| Bellach myfi a ballawdd, | |
| O glwyf blin wyf heb le nawdd. | |
| Ar dy fryd, cedernyd cur, | |
| 16 | Ai da y sigl y du segur? |
| Symudaist fi, som ydiw, | |
| Seren oleuwen o liw, | |
| Megis y gŵr, gyflwr gau, | |
| 20 | Ac iddo dan y gweddau |
| Deubar o ychen diball | |
| Wrth yr un aradr cadr call. | |
| Od ardd 'y ngran graeanfylch, | |
| 24 | Dalar gŵydd, ef deily ar gylch |
| Heddiw y naill, hoywdduw Naf, | |
| Yfory'r llall oferaf, | |
| Mal y gwnair, gurair gerydd, | |
| 28 | Chwarae â phêl, fy chwaer ffydd: |
| Hoff wyd, dilynwyd dy lun | |
| O-law-i-law, loyw eilun. | |
| Hir ddoniau, bryd hardd annwyl, | |
| 32 | Hyn yw dy fryd, hoen Dyfr ŵyl. |
| Ysgwïer gwyw ei ddwywisg, | |
| A'r rhain cyn dynned â'r rhisg, | |
| Nofies o'r blaen yn nwyfwydn | |
| 36 | Heb dâl, gyfnewidial wydn. |
| A wnêl y da dan fedwgoed, | |
| O myn y dyn, i mewn doed, | |
| Ac a'i gwnaeth, brodoriaeth braw, | |
| 40 | Aed allan wedi'i dwyllaw. |
| Bid edifar dy garu, | |
| Bwriaist fi, byr o wst fu. | |
| Ys gwir y bwrir baril, | |
| 44 | Ysgwd, pan fo gwag, is gil. |