Testun Golygedig: 118 - Y Cariad a Wrthodwyd

Fersiwn hwylus i'w argraffu

Y Cariad a Wrthodwyd

Drud yr adwaenwn dy dro,
Gwen gynhinen, gyn heno.
Mae i'm bryd, ennyd ynni,
4 Aml ei thwyll, ymliw â thi,
Morfudd ferch Fadawg Lawgam,
Myn y Pab, mi a wn pam
Y'm gadewaist ar feiston
8 Yn weddw hyll yn y wedd hon.

    Tra ellais, ni wydiais wawd,
Dirprwyo dy ŵr priawd,
Caredd hawl, caruaidd hud,
12 Cerydd fi, oni'm carud?
Bellach myfi a ballawdd,
O glwyf blin wyf heb le nawdd.
Ar dy fryd, cedernyd cur,
16 Ai da y sigl y du segur?

    Symudaist fi, som ydiw,
Seren oleuwen o liw,
Megis y gŵr, gyflwr gau,
20 Ac iddo dan y gweddau
Deubar o ychen diball
Wrth yr un aradr cadr call.
Od ardd 'y ngran graeanfylch,
24 Dalar gŵydd, ef deily ar gylch
Heddiw y naill, hoywdduw Naf,
Yfory'r llall oferaf,
Mal y gwnair, gurair gerydd,
28 Chwarae â phêl, fy chwaer ffydd:
Hoff wyd, dilynwyd dy lun
O-law-i-law, loyw eilun.
Hir ddoniau, bryd hardd annwyl,
32 Hyn yw dy fryd, hoen Dyfr ŵyl.

    Ysgwïer gwyw ei ddwywisg,
A'r rhain cyn dynned â'r rhisg,
Nofies o'r blaen yn nwyfwydn
36 Heb dâl, gyfnewidial wydn.
A wnêl y da dan fedwgoed,
O myn y dyn, i mewn doed,
Ac a'i gwnaeth, brodoriaeth braw,
40 Aed allan wedi'i dwyllaw.

    Bid edifar dy garu,
Bwriaist fi, byr o wst fu.
Ys gwir y bwrir baril,
44 Ysgwd, pan fo gwag, is gil.