Y Cariad a Wrthodwyd
Gwyddwn fod dy ystryw'n ffôl,
y peth bach hardd, cyn heno.
Mae'n fwriad gennyf, yng ngrym y foment,
4 un aml ei thwyll, dy geryddu,
Morfudd ferch Madog Lawgam,
myn y Pab, mi wn pam
y'm gadewaist ar lan traeth
8 yn weddw hyll yn y modd hwn.
Tra medrais, ni lygrais fawl,
ddirprwyo yn lle dy wr priod,
cwyn am drosedd, hudoliaeth dirion,
12 cywira fi, onid oeddet yn fy ngharu?
Bellach diffygiais innau,
oherwydd clwyf, blinedig ydwyf heb le i'm noddi.
Yn dy farn di, grym poen,
16 ai da y sigla'r [gwr] du segur?.
Newidiaist fi, siom ydyw,
seren oleuwen ei lliw,
megis y gwr, cyflwr twyllodrus,
20 ac iddo dan yr ieuau
ddau bâr o ychen di-ball
wrth yr un aradr praff call.
Os bydd iddo aredig fy ngrudd fylchog-gan-raean,
24 talar heb ei throi, fe ddeil bob yn ail
heddiw y naill, Arglwydd Dduw gogoneddus,
yfory'r llall ddiffeithaf,
fel y byddir, cerydd poenus ei eiriau,
28 yn chwarae â phêl, fy chwaer ffydd:
hoff ydwyt, dilynwyd dy lun
o law i law, ddelw loyw.
Maith dy ddoniau, gwedd hardd annwyl,
32 hyn yw dy fwriad, un debyg i Ddyfr dyner.
Ysgwïer llwm ei ddwy wisg,
a'r rhain cyn dynned â rhisgl,
nofiodd ar y blaen yn wydn egnïol
36 heb dâl, dyna fargen arw.
Y sawl a fynno wneud yr hyn sydd dda dan goed bedw,
os myn y ferch, deued i mewn,
a'r sawl a'i gwnaeth, brawdoliaeth braw,
40 aed allan wedi'i dwyllo.
Edifar yw gennyf dy garu,
bwriaist fi ymaith, byr fu'r boen.
Mae'n wir y caiff baril
44 ei bwrw o'r neilltu â hergwd pan fo'n wag.