{C. I Forfydd pan aeth hi gyd a'r du segur}
1 drud yr adwaenwn dy dro
2 Gwen kyenhinwen cyn heno
3 mae im bryd ennyd ynni
4 Aml ei thwyll ymliw a thi
5 Morfydd ferch fadawg lawgam
6 mynnv pawb mi a wn pa ham
7 Im gedeist ar y feiston
8 yn weddw hyll yn y wedd honn
9 Tra ellais ni wydiais wawd
10 dirprwyaw dy wr priawd
11 karedd havl carvaidd hvd
12 kerydd fi oni'm carvd
13 bellach myfi a ballawdd
14 o glwyf blin wyf heb le nawdd
15 Ar dy fryd cadernyd cvr
16 Ai da y sigl y dv segvr
17 Symvdaist fi som ydyiw
18 Seren olevwen o liw
19 megis y gwr gyflwr gav
20 ac iddo dan y gweddav
21 Devbar o ychen diball
22 wrth yr vn aradr cadr call
23 Ardded yngran grayangylch
24 dalar gwydd fe x ai deil ar
gylch
25 [100r] Heddyw y naill hoywddvw naf
26 Yforv y llall oferaf
27 Mal y gwnair gvrair gerydd
28 Chware a phel fy chwaer ffydd
29 hoffwyd dylynwyd dy lvn
30 O law i law loyw evlvn
33 Ysgwier gwiw i ddwywisc
34 A'r rhain cyn dynned a'r rhisc
35 Nofies o'r blaen yn wiw wydyn
36 heb dal gyfnewidial wydn
37 A wnel y da dan fedwgoed
38 O mynn y dyn i mewn doed
39 Ac ai gwnaeth brodoriaeth braw
40 Aed allan wedi ei dwyllaw
41 Bid edifar dy garv
42 Bwriaist fi byrr o wst fv
43 Ysgwir y bwrir baril
44 Ysgwd pan fo gwag isgil
Da' ap Glm'