{I Forfydd pan aeth hi gyd â'r Du segur}
1 Drud yr adwaenwn dy dro
2 gwen cenhinen cyn heno.
3 Mae i'm bryd ennyd ynni
4 Aml ei thwyll ymliw â thi.
5 Morfydd ferch Fadawc law-gam
6 myn y pab mi a wn pam
7 I'm gadewaist ar feiston
8 yn weddw hyll ar y wedd hon
9 Dra g ellais ni wydiais wawd
10 [ ]dirprwyaw dy wr priawd
11 Caredd hawl caruaidd hud
12 Cerydd fi onim carud.
13 Bellach myfi a ballawdd
14 o glwyf blin wyf heb le nawdd
15 Ar dy fryd cadernid xxx cur
16 ai da sigl y du segur
17 Symmudaist fi som ydiw
18 seren oleuwen o liw.
19 megis y gwr gyflwr gau
20 ac iddo dan y gweddau,
21 Deu-bar o ychen diball
22 wrth yr vn aradr cadr call
23 Ardded yngran graianfylch
24 dalar gwydd ai deil ar gylch
25 Heddyw y naill hoiw-dduw naf
26 yforu 'r llall oferaf
27 Mal y gwnair gurair gerydd
28 chware a phêl fy chwaer ffydd
29 Hoff wyd dylynwyd dy lun
30 o law i law loew xxeilun
33 [211v] Yscwier gwiw ei ddwy-wisc
34 ar rhain cyn dynned â'r rhisc
35 Nofies or blaen yn nwyfwydn
36 heb dal gyfnewidial wydn
37 A wnel y da dan fedw-goed
38 O mynne y dyn i mewn doed
39 Ac ai gwnaeth brodoriaeth braw
40 aed allan wedi dwyllaw
41 Bid edifar dy garu
42 bwrriaist fi byrr o wst fu
43 ys gwir y bwrir baril
44 ysgwd pan fo gwag îs gil
Dd' ap Gwilym.