G 3, 211r–211v   
   Tud: 1
    {I Forfydd pan aeth hi gyd â'r Du segur}
 
1    Drud yr adwaenwn dy dro
2    gwen cenhinen cyn heno.
3    Mae i'm bryd ennyd ynni
4    Aml ei thwyll ymliw â thi.
5    Morfydd ferch Fadawc law-gam
6    myn y pab mi a wn pam
7    I'm gadewaist ar feiston
8    yn weddw hyll ar y wedd hon
9    Dra g ellais ni wydiais wawd
10    [ ]dirprwyaw dy wr priawd
11    Caredd hawl caruaidd hud
12    Cerydd fi onim carud.
13    Bellach myfi a ballawdd
14    o glwyf blin wyf heb le nawdd
15    Ar dy fryd cadernid xxx cur
16    ai da sigl y du segur
17    Symmudaist fi som ydiw
18    seren oleuwen o liw.
19    megis y gwr gyflwr gau
20    ac iddo dan y gweddau,
21    Deu-bar o ychen diball
22    wrth yr vn aradr cadr call
23    Ardded yngran graianfylch
24    dalar gŵydd ai deil ar gylch
25    Heddyw y naill hoiw-dduw naf
26    yforu 'r llall oferaf
27    Mal y gwnair gurair gerydd
28    chware a phêl fy chwaer ffydd
29    Hoff wyd dylynwyd dy lun
30    o law i law loew xxeilun
   Tud: 2
33    [211v] Yscwier gwiw ei ddwy-wisc
34    ar rhain cyn dynned â'r rhisc
35    Nofies or blaen yn nwyfwydn
36    heb dal gyfnewidial wydn
37    A wnel y da dan fedw-goed
38    O mynne y dyn i mewn doed
39    Ac ai gwnaeth brodoriaeth braw
40    aed allan wedi dwyllaw
41    Bid edifar dy garu
42    bwrriaist fi byrr o wst fu
43    ys gwir y bwrir baril
44    ysgwd pan fo gwag îs gil
 
    Dd' ap Gwilym.