{ko i wraig oedd yn iwrthod o ran i ffailio}
1 Drud yr adwaenwn dy dro
2 gwen cenhinen cyn heno
3 mae i'm bryd ennyd ynni
4 aml ithwyll ymliw athi
5 Morvudd verch Vadog lowgam
6 myn y pab mi wn pa ham
7 i'm gedeist ar y veiston
8 yn weddw hyll yn y wedd hon
9 tra ellais ni wydiais wawd
10 dirprwyaw dy wr priawd
11 caredd haul caruaidd hud
12 cerydd vi onim carud
13 bellach myvi a ballawdd
14 o cglwyf blin wyf eb le nawdd
15 ar dy vryd cadernyd cur
16 ai da sigl y du segur
17 symvdaist vi som ydiw
18 seren oleuwen o liw
19 megis y gwr gyflwr gau
20 ag iddaw dan y gweddau
21 deubar o ychen diball
22 wrth yr vn aradr cadr call
23 ardded yngran grayanvylch
24 dalar gwydd ef a'i deil ar gylch
25 heddyw y naill hoyw dduw naf
26 y voru y llall overaf
27 val y gwnair gurair gerydd
28 chwarae a phel vy chwaer fydd
29 hofwyd dylynwyd dy lvn
30 o law i law loyw evlvn
33 ysgwier gwiw i ddwywisg
34 ar rhain cyn dyned ar rhisg
35 nofies or blaen yn wiwwydn
36 eb dal gyfnewidial wydn
37 a wnel y da dan vedwgoed
38 o myn y dyn y mewn doed
39 ac ai gwnaeth brodoriaeth braw
40 aed allan wedi dwyllaw
41 bid edivar dy garu
42 bwriaist vi byrr o wst vu
43 [300] ysgwir y bwrir baril
44 ysgwd pan vo gwag isgil
Dauid ap Gwilim