| Edifeirwch | |
| Prid o swydd, prydais iddi, | |
| Prydydd i Forfudd wyf fi. | |
| Myn y Gŵr a fedd heddiw, | |
| 4 | Mae gwayw i'm pen am wen wiw, |
| Ac i'm tâl mae gofalglwyf. | |
| Am aur o ddyn marw ydd wyf. | |
| Pan ddêl i osgel esgyrn | |
| 8 | Angau a'i chwarelau chwyrn, |
| Dirfawr fydd hoedl ar derfyn, | |
| Darfod a wna tafod dyn. | |
| Y Drindod rhag cydfod cwyn | |
| 12 | A mawr ferw, a Mair Forwyn, |
| A faddeuo 'nghamdramwy. | |
| Amen, ac ni chanaf mwy. | |