Testun Golygedig: 119 - Edifeirwch

Fersiwn hwylus i'w argraffu

Edifeirwch

Prid o swydd, prydais iddi,
Prydydd i Forfudd wyf fi.
Myn y Gŵr a fedd heddiw,
4Mae gwayw i'm pen am wen wiw,
Ac i'm tâl mae gofalglwyf.
Am aur o ddyn marw ydd wyf.

   Pan ddêl i osgel esgyrn
8Angau a'i chwarelau chwyrn,
Dirfawr fydd hoedl ar derfyn,
Darfod a wna tafod dyn.

   Y Drindod rhag cydfod cwyn
12A mawr ferw, a Mair Forwyn,
A faddeuo 'nghamdramwy.
Amen, ac ni chanaf mwy.