Edifeirwch
Llafur drudfawr, cenais iddi,
bardd i Forfudd wyf fi.
Myn y Gwr sy'n llywodraethu heddiw,
4 mae brath yn fy mhen am yr eneth brydferth
ac mae anaf [a ddaeth yn sgil] gofid ar fy nhalcen.
Yr wyf yn marw oherwydd y ferch bryd golau.
Pan ddaw angau a'i saethau didrugaredd
8 i barlysu'r esgyrn,
[peth] arswydus fydd [gweld] bywyd yn dod i ben,
bydd tafod dyn yn distewi.
Bydded i'r Drindod a Mair Forwyn
12 rhag mangre cwyn [lle y bydd] cythrwfl eithafol
faddau fy nghyfeiliorni pechadurus,
Amen, ac ni chanaf mwyach.