i Forfydd
1 Prid o swydd prydais iddi
2 prydydd i forfydd wyf fi
3 Myn y gwr a fedd heddiw
4 Mae gwayw i'm pen am wen wiw
5 Ac i'm tal mae gofalglwyf
6 Am avr o ddyn marw yddwyf
7 Pan ddel osgel i escyrn
8 Angev ai chwareleu chwyrn
9 Dirfawr fydd hoedl ar derfyn
10 Darfod a wna tafod dyn
11 Y drindod rhag cydfod cwyn
12 A mawr ferw a Mair forwyn
13 A faddevo 'ngham dramwy
14 Amen ac ni chana i mwy
Da' ap Glm'