â â â Dewis Un o Bedair
1â â â Ei serch a roes merch i mi,
2â â â Seren cylch Nantyseri,
3â â â Morwyn wych, nid ym marn au,
4â â â Morfudd wyl, mawr feddyliau.
5â â â Cyd collwyf o wiwnwyf uthr
6â â â Fy anrhaith a fu iawnrhuthr,
7â â â Cyd bu brid ein newid ni,
8â â â Prid oedd i'r priod eiddi.
9â â â Eithr rhag anfodd, uthr geinfyw,
10â â â Duw fry, diedifar yw,
11â â â Gwedy i'i chariad brad fu'r braw,
12â â â Lloer byd, rhoi llw ar beidiaw.
13â â â O cherais wraig mewn meigoel
14â â â Wrth lyn y porthmonyn moel,
15â â â Gwragennus esgus osgordd,
16â â â Gwraig, rhyw benaig, Robin Nordd,
17â â â Elen chwannog i olud,
18â â â Fy anrhaith â'r lediaith lud,
19â â â Brenhines, arglwyddes gwlân,
20â â â Brethyndai bro eithindan,
21â â â Dyn serchog oedd raid yno.
22â â â Gwae hi nad myfi fai fo!
23â â â Ni chymer hon, wiwdon wedd,
24â â â Gerdd yn rhad, gwrdd anrhydedd.
25â â â Hawdd oedd gael, gafael gyfa',
26â â â Haws no dim, hosanau da.
27â â â Ac os caf liw gwynnaf gwawn,
28â â â O fedlai y'm gwnâi'n fodlawn.
29â â â Nid ydwyf, nwyf anofal,
30â â â Rho Duw, heb gaffael rhyw dâl
31â â â Ai ar eiriau arwyrain
32â â â Ai ar feddwl cerddgar cain,
33â â â Ai â'r aur, cyd diheurwyf,
34â â â Ai ar ryw beth. Arab wyf.
35â â â Hefyd cyd bo fy nhafawd
36â â â I Ddyddgu yn gwëu gwawd,
37â â â Nid oes ym, myn Duw, o swydd
38â â â Ond olrhain anwadalrhwydd.
39â â â Gwawr brenhiniaeth, maeth â'i
medd,
40â â â Y byd wyr, yw'r bedwaredd.
41â â â Ni chaiff o'm pen cymen call,
42â â â Hoen geirw, na hi nac arall
43â â â Na'i henw na'r wlad yr hanoedd,
44â â â Hoff iawn yw, na pha un oedd.
45â â â Nid oes na gwraig, benaig nwyf,
46â â â Na gwr cimin a garwyf
47â â â Â'r forwyn glaer galchgaer gylch.
48â â â Nos da iddi nis diylch.
49â â â Cair gair o garu'n ddiffrwyth.
50â â â Caf, nid arbedaf fi, bwyth.
51â â â Be gwypai, gobaith undyn,
52â â â Mae amdani hi fai hyn,
53â â â Bai cynddrwg, geinwen rudd-deg,
54â â â Genthi â'i chrogi wych reg.
55â â â Mwy lawnbwys mau elynboen,
56â â â Moli a wnaf hi, Nyf hoen,
57â â â Hoyw ei llun, a holl Wynedd
58â â â A'i mawl. Gwyn ei fyd a'i medd!