Dewis Un o Bedair
Rhoddodd [un] ferch ei chalon i mi,
seren bro Nantyseri.
Morfudd addfwyn, morwyn hynod,
4 mawr [y lle iddi yn fy] meddyliau [ac] nid ffals [fy]
nyfarniad.
Er y dichon i mi golli fy anwylyd
a fu yn wir frwd yn [ei] hangerdd dilys ac eithafol,
er y bu ein newid [amgylchiadau] yn gostus [i ni],
8 yr oedd yn gostus [hefyd] i'w gwr [priod] hi.
Ond rhag digio Duw nefol, enbyd [yw] bywyd parchus,
di-droi'n-ôl ydyw hi,
bradwrus fu'r arswyd wedi hynny i'w chariad,
12 [un megis] lleuad [ymhlith merched y] byd, addunedu [a wnaeth]
y byddai'n ymwrthod [â mi].
Os cerais wraig gan led-gredu [y cawn fy ngwobrwyo]
wrth [fwrdd] diod y tipyn masnachwr moel,
gwraig [briod] Robin Nordd,
16 rhyw uchelwr [a chanddo] ddilynwyr tila ac eiddil,
Elen a'i llygaid ar gyfoeth,
fy nhrysor a'i bratiaith anystwyth,
brenhines, arglwyddes gwlân,
20 tai brethyn bro [sy'n cynhyrchu brethyn] tanbaid,
yr oedd rhaid yno wrth garwr glew.
Gresyn iddi nad myfi fyddai'r un [i'w bodloni]!
Ni fydd hon yn derbyn cerdd am bris bychan,
24 [un a'i] gwedd [megis ewyn] hardd y don, diamwys yw ei
hanrhydedd.
[Peth] hawdd [i mi] oedd derbyn-haws na dim oll-
hosanau o safon, meddiant llwyr.
Ac os enillaf [un a'i] phryd cyn wynned â'r gwawn
puraf,
28 bydd hi yn fy modloni [trwy roi imi hosanau] o fedlai.
Nid wyf, angerdd [nad yw'n peri] anghysur [i mi],
myn Duw, yn amddifad o wobr
naill ai yn gyfnewid am eiriau moliant
32 neu am gynnyrch soniarus a chelfydd,
naill ai ar [ffurf] arian, gwadaf gyswllt cnawdol,
neu ar [ffurf] rhywbeth [arall]. [Gwr] huawdl wyf.
Ond cyhyd ag [y byddaf] â'm tafod
36 yn plethu moliant i Ddyddgu,
yr unig waith sydd imi, yn enw Duw,
yw cofnodi [ei] hanwadalrwydd.
Arglwyddes y wlad benbaladr, [un y mae ei] medd [yn gyfrwng]
bywyd,
40 gwyr pawb oll [hynny], yw'r bedwaredd.
Ni chaiff hi na neb arall
o'm genau cywrain a doeth, gwedd ewyn [y môr],
[wybod] ei henw nac [enw]'r rhanbarth sy'n gartref iddi,
44 un ddymunol iawn ydyw, na phwy ydoedd.
Ni charaf [neb] gymaint â'r forwyn brydferth
a'r [cnawd] o'i hamgylch [megis] caer wedi ei gwyngalchu,
na gwraig [briod] na gwr, arglwydd grymus.
48 Ni fydd yn diolch imi am fy nghyfarchion.
Dywedir fy mod yn garwr aflwyddiannus.
Caf fi fy ngwobr ac nid ymwrthodaf ag ef.
Pe gwyddai, [testun] gobaith yr un gwr [hwn yw hi],
52 mai [cerdd] amdani hi yw hon,
y lodes hardd â'r gruddiau cochion,
byddai'r anrheg wych cyn waethed yn ei golwg â'i
chrogi.
[Er mai] trymach o lawer i mi fyddai dolur y casineb
[hwnnw],
56 byddaf yn ei moli, [ei] gwedd [megis] Nyf,
yr un deg ei ffurf, a bydd holl bobl Gwynedd [hefyd]
yn ei moli. Gwyn ei fyd [y sawl] a fydd yn ei hennill.