â â â Angof
1â â â Efa fonheddig ddigawn,
2â â â Arglwyddes, dwywes y dawn,
3â â â Nid dir, pryd eiry cyn Ystwyll,
4â â â Ymliw â thi, aml ei thwyll,
5â â â Ond na ddlyud ddilëu
6â â â Y rhwym fyth yrhôm a fu.
7â â â Tebyg yw, f'enaid dibwyll,
8â â â Na'm adwaenost, tost yw twyll.
9â â â Och, ai meddw, wych em, oeddud
10â â â Erllynedd, gyhydedd hud?
11â â â Bun ry haerllug fuddugawl,
12â â â Bid i'th farn a'r byd a'th fawl:
13â â â O bu, ymannerch serchbryd,
14â â â Un gair rhom, unne geirw rhyd,
15â â â Ac o bu gynt, tremynt tro,
16â â â Bai ditiwr, mawl, bid eto.
17â â â Na fyn ogan fal anael
18â â â Ac na fydd adwerydd wael.
19â â â Angof ni wna dda i ddyn,
20â â â Anghlod yn awdl neu englyn.
21â â â Terfyn angof yw gofal;
22â â â Twr dy dy, taro dy dâl
23â â â Goldwallt dan aur gwnsallt da;
24â â â Galw dy gof, gwyldeg Efa:
25â â â Nid taeredd a wnaut erof,
26â â â Nid da, deg Efa, dy gof.
27â â â Na fydd anghywir hirynt,
28â â â N'ad tros gof ein wtres gynt.