Angof
Efa fonheddig ddigon,
arglwyddes, duwies y ddawn,
nid [yw'n] angenrheidiol, [un â'i] phryd [fel] eira cyn
Ystwyll,
4 dadlau â thi, un aml ei thwyll,
ond [am] na ddylit ddileu
fyth y rhwym a fu rhyngom.
Mae'n debyg, fy nghariad dibwyll,
8 nad wyt yn fy adnabod, creulon yw twyll.
Och, ai meddw (gem wych) oeddet
y llynedd, cyfnod hudolus o amser?
Merch falch iawn lwyddiannus,
12 bydded iti farnu [am hyn], a'r byd fydd yn dy ganmol:
os bu (cyfarchiad â thegwch serch)
un gair rhyngom, [ferch] o'r un lliw ag ewyn rhyd,
ac os bu gynt (edrychiad sy'n troi,
16 ffaeledd cyhuddwr) fawl, bydded eto.
Paid â mynnu dychan fel cybydd
ac na fydd yn hen ferch wael.
Angof ni wna ddaioni i ddyn,
20 anghlod mewn awdl neu englyn.
Terfyn angof yw gofid;
twr dy dy, dyro dy dalcen
ac iddo wallt euraid dan fantell aur dda;
24 galw [ar] dy gof, Efa wylaidd a theg:
ni fyddit yn gwneud [unrhyw] beth garw er fy mwyn,
nid da, Efa deg, yw dy gof.
Na fydd yn anffyddlon [am] amser hir,
28 paid â gadael dros gof ein chwant gynt.