Marwnad Angharad
Mae dagrau'n llifo o'm llygaid (adfeddiant hir)
am fod dodi Angharad lawen a bonheddig
dan y ddaear mor drist i'm meddwl truenus,
4 hi â'r aeliau duon.
Mae'n drist nad yw'r un â'r cyrn gwin aeddfed yn fyw,
dinistr bardd ysbrydoledig;
cyfoeth ar sylfaen gadarn noddwr,
8 bu gweini yn helaeth o'i llaw hardd.
Bu'n gweini gwin, medd llu o bobl, disgleirdeb Indeg gain,
cyn un dydd marwoldeb;
nid oes bywyd tangnefedd ond Arglwydd y nef,
12 rhithiol yw bywyd i lawer o bobl.
Mae sawl calon yn torri ym Mhennardd am hon,
ail Esyllt wylaidd a phrydferth;
mae sawl bardd galar trwsiadus,
16 tristwch llwyr, nad yw'n chwarae, nad yw'n chwerthin.
Ni chwardd bardd ffyddlon da ei gyfarpar
am fod Angharad wedi mynd, ansawdd llif ewyn,
nid yw cwyn ofnadwy yn tewi o'm calon,
20 fe'm bradychwyd, mae'n llef alaethus.
Rhy alaethus, cipiad agored, fu gorfod
(llygaid balch tywyll fel mwyar,
merch foneddigaidd, dosbarthodd elw)
24 clymu pren derw rhyngom a'i bochau.
Gwas main gwelw ei fochau wyf i yn druenus oherwydd galar
am gannwyll hardd mewn lliain,
am fod terfyn hir merch bur a hael
28 wedi dod, achos dagrau hidl.
Angharad â'r wedd eiddil oedd y ferch haelaf,
hawddgaraf
a gorau yng Nghaer,
sirioldeb bywiog, dysg dda, nid oedd neb
32 yr un fath â hi, haul yr wybren.
Pwy a fu mor fyr ei heinioes â'm merch euraidd?
Dagrau hidl mynych sy'n fy mlino.
Synnwyr llawn gras, colled alaethus o sydyn,
36 nith ddisglair yr haul, pa fron nad yw'n torri?
Pennaeth euraidd moliant, arnat ti Arglwydd Dduw
y mae fy ngherydd am Angharad,
mor gyflawn y rhoddaist ddarpariaeth wych
40 o fendithion, caffaeliad priodol, Gwr hael, a gras,
gan i Ti fynnu (un synhwyrol oedd hi) ei dwyn ymaith
yn rhy sydyn drist trwy frad y pridd tew.
Gwnaethost gwrs ei heinioes yn druenus iawn,
44 anghywir oedd ei pherthynas â Duw Dad.
Mae cywasgiad ffyrnig ar fy esgyrn, bu'n gyflafan greulon,
disgynnydd i Gynwrig, piler rhan flaen byddin.
Gloywder hyfryd Eigr, un anwylyd Uthr,
48 fe'n hysbeiliwyd yn ofnadwy mewn un ymosodiad.
Disgleirdeb brig ton lachar yn llifo dros draeth gwyn,
mae ei brodyr maeth yn adnabod gwead galar,
ael tywyll mewn lliain, mae'n drist nad yw hi'n fyw,
52 gwae dylwyth un arglwydd Eigr o'r gaer lle gweinir gwin.
Neidiodd dolur gofidus i'm calon
yn sgil ei hymadawiad, gafaeliad poen oer.
Ffyniant anrhydedd marchog sy'n rhoi aur,
56 gwraig aeddfed hardd, lleuad y gwragedd,
cymar tyner a gweddus pencampwr mewn brwydr,
Ieuan â'r waywffon danbaid, lladdfa brwydr,
gwaywffon waedlyd arglwydd, cydiwr gwlad a'i chynheiliad,
60 un a folir, arglwydd llwyd hael, cynheiliad llu,
gwrthwynebwr gelynion, cymar amddiffynnwr gwersyll,
arglwydd cadarn grymus ei ddicter, hoff o win, pendefig cerdd
berffaith.
Fe'm brifodd gofid yn sydyn, gellir ei alw'n gerydd,
64 mae lliw galar i'w weld ar lawer o bobl.
Gwenynen hardd a oedd yn ymwybodol o'i dawn,
gwawn Ceredigion, creulon oedd ei dwyn ymaith,
merch olau â'i hynafiaid o dras fonheddig hir,
68 ataliai iaith ofer, gwedd wylaidd.
Ar ôl cwyn am ddwyn einioes wyf yn fardd torcalonnus,
gwedd haenen o eira'n gorchuddio gwellt, arglwyddes dda
Buellt,
merch hardd wych, gweinydd hael mewn gwledd,
72 bwrdd gwin a chyfoeth, un a roddai ymborth i feirdd hardd.
Mae ergyd gwayw trwof o'r cof amdani yn fy nal yn gaeth,
gem penwisg ddisglair, druan o'm llygad!
Yr wyneb, niwed tost, mae cawod o ddagrau'n ei wlychu,
76 gwyrdd a rhychiog yw fy moch, cân alar druenus iawn.
Mae'r gwyn amdani'n wenwyn i mi, nis ceir o'm hystlys,
cynheiliad llys cywir, gown ysgarlad.
Gwaith drwg i lygaid fyddai wylo di-baid,
80 gwaeth yw'r cof am Angharad, hiraeth enbyd.