Marwnad Angharad | |
Mae dagrau'n llifo o'm llygaid (adfeddiant hir) | |
am fod dodi Angharad lawen a bonheddig | |
dan y ddaear mor drist i'm meddwl truenus, | |
4 | hi â'r aeliau duon. |
Mae'n drist nad yw'r un â'r cyrn gwin aeddfed yn fyw, | |
dinistr bardd ysbrydoledig; | |
cyfoeth ar sylfaen gadarn noddwr, | |
8 | bu gweini yn helaeth o'i llaw hardd. |
Bu'n gweini gwin, medd llu o bobl, disgleirdeb Indeg gain, | |
cyn un dydd marwoldeb; | |
nid oes bywyd tangnefedd ond Arglwydd y nef, | |
12 | rhithiol yw bywyd i lawer o bobl. |
Mae sawl calon yn torri ym Mhennardd am hon, | |
ail Esyllt wylaidd a phrydferth; | |
mae sawl bardd galar trwsiadus, | |
16 | tristwch llwyr, nad yw'n chwarae, nad yw'n chwerthin. |
Ni chwardd bardd ffyddlon da ei gyfarpar | |
am fod Angharad wedi mynd, ansawdd llif ewyn, | |
nid yw cwyn ofnadwy yn tewi o'm calon, | |
20 | fe'm bradychwyd, mae'n llef alaethus. |
Rhy alaethus, cipiad agored, fu gorfod | |
(llygaid balch tywyll fel mwyar, | |
merch foneddigaidd, dosbarthodd elw) | |
24 | clymu pren derw rhyngom a'i bochau. |
Gwas main gwelw ei fochau wyf i yn druenus oherwydd galar | |
am gannwyll hardd mewn lliain, | |
am fod terfyn hir merch bur a hael | |
28 | wedi dod, achos dagrau hidl. |
Angharad â'r wedd eiddil oedd y ferch haelaf, hawddgaraf | |
a gorau yng Nghaer, | |
sirioldeb bywiog, dysg dda, nid oedd neb | |
32 | yr un fath â hi, haul yr wybren. |
Pwy a fu mor fyr ei heinioes â'm merch euraidd? | |
Dagrau hidl mynych sy'n fy mlino. | |
Synnwyr llawn gras, colled alaethus o sydyn, | |
36 | nith ddisglair yr haul, pa fron nad yw'n torri? |
Pennaeth euraidd moliant, arnat ti Arglwydd Dduw | |
y mae fy ngherydd am Angharad, | |
mor gyflawn y rhoddaist ddarpariaeth wych | |
40 | o fendithion, caffaeliad priodol, Gŵr hael, a gras, |
gan i Ti fynnu (un synhwyrol oedd hi) ei dwyn ymaith | |
yn rhy sydyn drist trwy frad y pridd tew. | |
Gwnaethost gwrs ei heinioes yn druenus iawn, | |
44 | anghywir oedd ei pherthynas â Duw Dad. |
Mae cywasgiad ffyrnig ar fy esgyrn, bu'n gyflafan greulon, | |
disgynnydd i Gynwrig, piler rhan flaen byddin. | |
Gloywder hyfryd Eigr, un anwylyd Uthr, | |
48 | fe'n hysbeiliwyd yn ofnadwy mewn un ymosodiad. |
Disgleirdeb brig ton lachar yn llifo dros draeth gwyn, | |
mae ei brodyr maeth yn adnabod gwead galar, | |
ael tywyll mewn lliain, mae'n drist nad yw hi'n fyw, | |
52 | gwae dylwyth un arglwydd Eigr o'r gaer lle gweinir gwin. |
Neidiodd dolur gofidus i'm calon | |
yn sgil ei hymadawiad, gafaeliad poen oer. | |
Ffyniant anrhydedd marchog sy'n rhoi aur, | |
56 | gwraig aeddfed hardd, lleuad y gwragedd, |
cymar tyner a gweddus pencampwr mewn brwydr, | |
Ieuan â'r waywffon danbaid, lladdfa brwydr, | |
gwaywffon waedlyd arglwydd, cydiwr gwlad a'i chynheiliad, | |
60 | un a folir, arglwydd llwyd hael, cynheiliad llu, |
gwrthwynebwr gelynion, cymar amddiffynnwr gwersyll, | |
arglwydd cadarn grymus ei ddicter, hoff o win, pendefig cerdd berffaith. | |
Fe'm brifodd gofid yn sydyn, gellir ei alw'n gerydd, | |
64 | mae lliw galar i'w weld ar lawer o bobl. |
Gwenynen hardd a oedd yn ymwybodol o'i dawn, | |
gwawn Ceredigion, creulon oedd ei dwyn ymaith, | |
merch olau â'i hynafiaid o dras fonheddig hir, | |
68 | ataliai iaith ofer, gwedd wylaidd. |
Ar ôl cwyn am ddwyn einioes wyf yn fardd torcalonnus, | |
gwedd haenen o eira'n gorchuddio gwellt, arglwyddes dda Buellt, | |
merch hardd wych, gweinydd hael mewn gwledd, | |
72 | bwrdd gwin a chyfoeth, un a roddai ymborth i feirdd hardd. |
Mae ergyd gwayw trwof o'r cof amdani yn fy nal yn gaeth, | |
gem penwisg ddisglair, druan o'm llygad! | |
Yr wyneb, niwed tost, mae cawod o ddagrau'n ei wlychu, | |
76 | gwyrdd a rhychiog yw fy moch, cân alar druenus iawn. |
Mae'r gŵyn amdani'n wenwyn i mi, nis ceir o'm hystlys, | |
cynheiliad llys cywir, gown ysgarlad. | |
Gwaith drwg i lygaid fyddai wylo di-baid, | |
80 | gwaeth yw'r cof am Angharad, hiraeth enbyd. |