{I ferch elwid Efa}
1 Efa fonheddig ddigawn
2 arglwyddes dvwies y dawn
3 nid er pryder kyn ystwyll
4 ymliw a thi aml i thwyll
5 ond na ddylit ti ddelev
6 y rhôm fyth y rhwym a fv
7 tebig fv? enaid dibwyll
8 nâ m adwaenost tôst fydd twyll
9 och ai meddw wych em oeddvd
10 y llynedd gyhydedd hvd
11 bvm rv havrllvg feddvgawl
12 bid ith farn y byd ath fawl
15 ac o bvm gynt tremynt tro
16 bwy dittiwr mawl bid etto
17 na haedd o gan fal anael
18 ag na fydd adwerydd wael
19 angof ni wna dda i ddyn
20 anglod mewn odl ne englyn
21 terfyn angof yw gofal
22 twr dy dy torai dy dâl
23 goldwallt dy avr gwnswallt da
24 galw dy gof gwyledig Efa
25 nid tavredd a wnavt erof
26 nid ta dêg Efa dy gof
27 na fydd anghowir hirynt
28 nâd tros gôf ym wttres gynt
{Dafydd ap Gwilim}