â â â Caer Rhag Cenfigen
1â â â  Cynghorfynt, wan Frytaniaid,
2â â â  Cenedl Susar, blaengar blaid,
3â â â  A'i plaodd, o chwplëir,
4â â â  Ac a'i rhywnaeth, gwaeth no gwir,
5â â â  Rhwym o gynfigen a rhus,
6â â â  Ac anian gynfigennus
7â â â  Yw gwarafun yn unnod
8â â â  I ddyn glân ei ddawn a'i glod.
9â â â  Mae arnaf o warafun, 
10â â â  Myn y grog, mwy nog ar un,
11â â â  Rhus hydr o ryw was ydwyf,
12â â â  Gan bobl oer, gwn o ba blwyf.
13â â â  Rhai grym, rhywiog arymes,
14â â â  Rhoddant, amlhaant ym les,
15â â â  A'r bawheion a soniant,
16â â â  Och am nerth! a cham a wnânt.
17â â â Ef a roes Duw, nawddfoes nawd, 
18â â â  Gaer i'm cadw, gwiwrym ceudawd,
19â â â  Cystal, rhag ofn dial dyn,
20â â â  Â'r Galais rhag ei elyn.
21â â â  Cilio ni lwydd, calon lân,
22â â â  Caerdroea, caru druan,
23â â â  Di-isel ddirgel ddurgoly,
24â â â  Dilon Dwr Babilon boly.
25â â â  Ungwr, dieiddil angerdd, 
26â â â  A gadwai gastell, cell cerdd,
27â â â  Rhag y dynion a sonia,
28â â â  Tra fai ystôr trwy foes da,
29â â â  A gofynag yn fagwyr
30â â â  O gariad Angharad hwyr, 
31â â â  A maen blif o ddigrifwch
32â â â  Rhag na dirmyg na phlyg fflwch,
33â â â  A llurug, ddiblyg ddybliad,
34â â â  Gorddyfn hedd, Gwirdduw fy Nhad;
35â â â  Neur gaiff flinder, Duw Nêr nen,
36â â â  Gan fygwth o gynfigen.
37â â â  Golwg ruddell yw'r gwyliwr
38â â â  Ar feilch teg ar fwlch y twr,
39â â â  Ladmer a adrodder draw
40â â â  Yw'r hoywglust ar y rhaglaw,
41â â â  A'r porthawr, ni'm dawr i'm dydd,
42â â â  Yw'r tafod o rad Dofydd;
43â â â  Adail oddieithr ydynt
44â â â  Dwylo a thraed, dilithr ynt.
45â â â  Duw Dad, Tydi a'i piau,
46â â â  Dod fwyllwr yn y twr tau;
47â â â  Na ad yn wag fynagwael
48â â â  O fewn gwr rhag ofn ei gael;
49â â â  Cais ei gadw rhag anfadwyr,
50â â â  Côr bro saint cer wybr a syr.
51â â â  Bygythia, gymanfa gas,
52â â â  Bygythwyr y byw gaethwas,
53â â â  Ni a wddam ar dramwy,
54â â â  Peiriaint oer, pa rai ynt hwy.
55â â â  Be delai'r môr angorwaisg
56â â â  Drwy din Edwart Frenin fraisg,
57â â â  Bardd i fun loywhardd lawhir,
58â â â  Byw ydyw ef, a bid wir.