Caer Rhag Cenfigen
Bu i eiddigedd, Brydeinwyr gwan,
cenedl Cesar, llu eofn,
ei heintio, os caiff hynny ei ddwyn i ben,
4 a'i gwneud, peth sy'n waeth nag unrhyw wirionedd,
yn gaeth i genfigen a rhwystr,
a thueddfryd cenfigennus
yw gwarafun yn unfryd
8 i ddyn teg ei ddawn a'i glod.
Mae mwy o rwystrau yn fy erbyn,
myn y groes, nag ar neb arall,
llanc ofnus iawn ydwyf,
12 gan bobl oeraidd, gwn o ba blwyf.
Bydd rhai cadarn, proffwydoliaeth wych,
yn rhoi imi les ac yn ei amlhau,
a bydd y dihirod yn clebran,
16 och am nerth! a cham a wnânt [â mi].
Rhoes Duw, gynhaliol ei anian,
gaer i'm gwarchod, sef grym gwych y galon,
cystal, rhag ofn dialedd dyn,
20 â Calais rhag ei elyn.
Ni thâl - calon lân,
Caerdroea - i gariad druan ffoi,
colyn dur uchel a dirgel,
24 Twr Babilon aflawen y fynwes.
Byddai un gwr, grymus ei gynneddf,
am warchod castell, cell cerdd,
rhag y dynion sy'n clebran,
28 tra byddai stôr drwy foes dda,
a gobaith yn fur
o gariad Angharad fwyn,
a maen catapwlt o hyfrydwch
32 rhag dirmyg ac anghywirdeb mawr,
a chrys mael, wedi ei ddyblu heb blyg,
cynefin â hedd, fy ngwir Dduw Dad;
caiff ei flino, Arglwydd Dduw nef,
36 gan fygythiad o achos cenfigen.
Llygad gwinau yw'r gwyliwr
ar wyr balch a theg ar fwlch y twr,
lladmerydd yr adroddir amdano draw
40 yw'r glust effro ar y rhaglaw,
a'r porthor, ni faliaf tra byddaf,
yw'r tafod drwy ras Duw;
adeiladau allanol ydyw'r
44 dwylo a'r traed, di-syfl ydynt.
Duw Dad, Tydi a'i piau,
dyro ymborth yn dy dwr di;
paid â gadael yn waglaw a gwael ei fynegiant
48 wr o'i fewn rhag ofn ei gipio;
ceisia'i gadw rhag anfadwyr,
cysegr bro'r saint ger awyr a sêr.
Bygythia, dyrfa gas,
52 fygythwyr y llanc caeth, nwyfus,
fe wyddom ar ein hynt,
gorchmynion dygn, pwy ydynt hwy.
Pe deuai'r môr cadarn ei angorau
56 drwy din Edward Frenin fras,
bardd i ferch loyw-hardd hael,
byw ydyw ef, a boed hynny'n wir.