Caer Rhag Cenfigen
    Bu i eiddigedd, Brydeinwyr gwan,
    cenedl Cesar, llu eofn,
    ei heintio, os caiff hynny ei ddwyn i ben,
4    a'i gwneud, peth sy'n waeth nag unrhyw wirionedd,
    yn gaeth i genfigen a rhwystr,
    a thueddfryd cenfigennus
    yw gwarafun yn unfryd
8    i ddyn teg ei ddawn a'i glod.
    Mae mwy o rwystrau yn fy erbyn,
    myn y groes, nag ar neb arall,
    llanc ofnus iawn ydwyf,
12    gan bobl oeraidd, gwn o ba blwyf.
    Bydd rhai cadarn, proffwydoliaeth wych,
    yn rhoi imi les ac yn ei amlhau,
    a bydd y dihirod yn clebran,
16    och am nerth! a cham a wnânt [â mi].
    Rhoes Duw, gynhaliol ei anian,
    gaer i'm gwarchod, sef grym gwych y galon,
    cystal, rhag ofn dialedd dyn,
20    â Calais rhag ei elyn.
    Ni thâl - calon lân,
    Caerdroea - i gariad druan ffoi,
    colyn dur uchel a dirgel,
24    Twr Babilon aflawen y fynwes.
    Byddai un gwr, grymus ei gynneddf,
    am warchod castell, cell cerdd,
    rhag y dynion sy'n clebran,
28    tra byddai stôr drwy foes dda,
    a gobaith yn fur
    o gariad Angharad fwyn,
    a maen catapwlt o hyfrydwch
32    rhag dirmyg ac anghywirdeb mawr,
    a chrys mael, wedi ei ddyblu heb blyg,
    cynefin â hedd, fy ngwir Dduw Dad;
    caiff ei flino, Arglwydd Dduw nef,
36    gan fygythiad o achos cenfigen.
    Llygad gwinau yw'r gwyliwr
    ar wyr balch a theg ar fwlch y twr,
    lladmerydd yr adroddir amdano draw
40    yw'r glust effro ar y rhaglaw, 
    a'r porthor, ni faliaf tra byddaf,
    yw'r tafod drwy ras Duw;
    adeiladau allanol ydyw'r
44    dwylo a'r traed, di-syfl ydynt.
   Duw Dad, Tydi a'i piau, 
    dyro ymborth yn dy dwr di;
    paid â gadael yn waglaw a gwael ei fynegiant
48    wr o'i fewn rhag ofn ei gipio;
    ceisia'i gadw rhag anfadwyr,
    cysegr bro'r saint ger awyr a sêr.
    Bygythia, dyrfa gas,
52    fygythwyr y llanc caeth, nwyfus,
    fe wyddom ar ein hynt,
    gorchmynion dygn, pwy ydynt hwy.
    Pe deuai'r môr cadarn ei angorau
56    drwy din Edward Frenin fras,
    bardd i ferch loyw-hardd hael,
    byw ydyw ef, a boed hynny'n wir.