GDG 140
Yn y cywydd hwn, cwyna Dafydd fod rhai pobl yn gweld bai arno oherwydd ei gariad at ferch o'r enw Angharad, a myn mai hen genfigen y Cymry sy'n gyfrifol am hynny. Mae'n benderfynol o wrthsefyll eu sïon maleisus, a delwedda ei galon fel caer y mae'n ymroi i'w hamddiffyn drwy ras Duw. Nododd Thomas Parry, GDG xxxviii–ix, mai'r un yw'r ferch hon yn fwy na thebyg ag Angharad wraig Ieuan Llwyd o Lyn Aeron a farwnadir yn rhif 9, ac mae honno'n farn a dderbynnir yn gyffredinol bellach (mae lle i gredu hefyd mai hi yw gwrthrych y cywydd i ferch o Is Aeron, rhif 136). Hi yn ôl pob tebyg yw'r Angharad a enwir mewn pump o benillion serch a ddyfynnir yng Ngramadeg Einion Offeiriad (GEO Atodiad C, rhifau 11, 12, 29 a 36, Atodiad D, rhif 10, gw. ib. 47 a passim; D.J. Bowen, 'Dafydd ap Gwilym a Datblygiad y Cywydd', LlC 8 (1964–5), 13–15; Rachel Bromwich, 'Gwaith Einion Offeiriad a barddoniaeth Dafydd ap Gwilym', YB 10 (1977), 170–2). Mae'n bur debyg, felly, y buasai Angharad yn gyfarwydd â noddi'r canu serch – ceir adleisiau awgrymog o iaith a delweddaeth y canu yn y farwnad iddi, gw. DGIA 209– ac efallai i rai edliw i Ddafydd iddo ganu cywyddau serch o'r math newydd, 'geuwawd o gywydd', i'r uchelwraig hon.
Dichon mai rhan o newydd-deb y cywydd hwn yw ei fod yn tynnu ar draddodiad Ewropeaidd ehangach. Fel y sylwodd Rachel Bromwich, mae tebygrwydd trawiadol rhwng delwedd y gaer a rhan o'r Roman de la Rose, ac fel y sylwodd T.M. Chotzen o'i blaen, mae'r ymdriniaeth alegorïol â chaerau serch yn gyffredin yn llenyddiaeth Ffrangeg ac Eingl-Normanaidd yr Oesoedd Canol. Am y cyfeiriadau, gw. DGIA 221–4, lle y dyfynnir enghreifftiau pellach sy'n awgrymu dyled i gonfensiwn Ewropeaidd amlwg, er mor unigolyddol yw ymdriniaeth Dafydd â'r ddelwedd. Mae bawheion cyhuddgar y cywydd yn dwyn i gof hefyd yr athrodwyr y mae cymaint o sôn amdanynt yng nghanu'r trwbadwriaid a'r trwferiaid, gw. ib. 224, er nad oes raid eu hesbonio yn nhermau dylanwad cyfandirol. Dylid cofio yn ogystal fod delwedd y gaer yn gyffredin ym mhregethau'r Oesoedd Canol, gw. ib. 221–2, ac fe all fod yma elfen o barodi ar ddyfeisiau'r pregethwyr fel sydd yn rhai o gywyddau eraill Dafydd.
Yng ngoleuni'r cyfeiriad at Calais yn ll. 20, dadleuodd Thomas Parry, GDG1 lv , i Ddafydd ganu'r cywydd yn ystod gwarchae Edward III ar y dref honno yn 1346–7 neu'n fuan wedyn. Dadleuodd Saunders Lewis ymhellach, LlC 2 (1952–3), 202, fod y pedair llinell olaf (gw. nodyn isod) yn gymorth i ddyddio'r gerdd yn fanylach, gan weld yma gyfeiriad at safle llynges Edward III yn ystod y gwarchae, a osodai'r cywydd rhwng Gorffennaf a Medi 1347 pan ddaeth y gwarchae i ben. Derbynnir hyn gan Thomas Parry yn GDG xxxiv, ond ni ellir diystyru'r posibilrwydd i Ddafydd ganu'r cywydd yn fuan wedi'r gwarchae pan oedd y cof amdano yn dal yn fyw. Awgrymwyd i Ieuan, gŵr Angharad, ymladd dan Edward III, gw. D. Hywel E. Roberts, 'Noddwyr y Beirdd yn Sir Aberteifi', LlC 10 (1968–9), 84. Llym rôn Is Aeron, ys aer gyrchai, medd Hillyn amdano (GLlBH 5.26), ac er y gall mai confensiynol yw'r mawl i'w filwriaeth, nid annichon ei fod yn rhan o fintai Syr Rhys ap Gruffudd a fu'n ymladd ym mrwydr Crécy yn 1346 (gw. nodyn cefndir rhif 116). Mae disgrifiad Hillyn ohono fel Lleiddiad gwir giliad gwŷr y Galai (GLlBH 5.32) yn arbennig o ddiddorol yng ngoleuni'r cywydd, ond mae'n ansicr ai tref Calais a olygir, gw. ib. 111; aralleirir 'milwyr y ?Normaniaid'. Os oedd Ieuan oddi cartref yn Ffrainc pan ganodd Dafydd gywyddau serch i'w wraig, gallai hynny fod wedi cythruddo'r rhai a gystwyir yn y cywydd hwn.
Ceir copïau o'r cywydd mewn dwy lawysgrif gynnar, sef Pen 57 o ganol y 15g. a Pen 54, c. 1480. Yr unig gopi arall yw Pen 312 (John Jones, Gellilyfdy, 1610–40) sy'n deillio o Pen 57. Mae'r ddau destun cynnar yn bur debyg i'w gilydd, ond dengys yr amrywiadau ôl trosglwyddiad llafar. Er enghraifft, yn llau. 5–6 ceir y cyfystyron cynghorfynt (Pen 57) a cynfigen (Pen 54); annwyd (Pen 57) ac anian (Pen 54). Digwydd dau gwpled (31–2, 35–6) mewn mannau gwahanol, a cheir cwpled yn Pen 57 (51–2) nas ceir yn Pen 54. Gan ei fod yn rhagori mewn sawl man, seiliwyd y golygiad ar destun Pen 57, ond gan dderbyn ambell ddarlleniad da o Pen 54.
Cynghanedd: croes 21 ll. (36%), traws 7 ll. (12%), sain 18 ll. (31%), llusg 12 ll. (21%).
2. Susar Pen 57 sysar, Pen 54 susar (ond Sisar yn GDG). Cesar yw'r ffurf fwyaf cyffredin, ond cymh. e.e. Sesar, ein câr dihareb yng nghywydd Siôn Cent, 'Gobeithiaw a ddaw ydd wyf' (IGE 266.21). Yr un yw'r ergyd yma, oherwydd y gred fod y Brytaniaid yn tarddu o linach Brutus o Gaerdroea. Cymh. hefyd y llinell Gweinion ŷm heddiw gwannwyf (ib. ll.1) â wan Frytaniaid llinell gyntaf y cywydd hwn.
3. o chwplëir Dilynir Pen 54 yma; Pen 57 o cwplëir. Arfer Dafydd yw treiglo'n llaes yn dilyn y cysylltair o 'os'.
5. cynfigen Ffurf gyffredin, gw. GPC 462. Pen 57 gynghorfynt, ac felly GDG, sy'n dilyn fersiwn y llsgr. honno o'r cwpled hwn. Fodd bynnag, chwithig yw ailadrodd gair cyntaf y cywydd yn yr un frawddeg.
6. anian Pen 57 annwyd. Gweddai'r naill neu'r llall o ran ystyr a chynghanedd.
9. Pen 54 Y mae arnaf warafun. Mae'r cymeriad llythrennol Mae / Myn o blaid darlleniad Pen 57, cymh. y gwahaniaeth rhwng y ddwy lsgr. yn ll. 13 isod.
12. o ba blwyf Os derbynnir mai i Angharad wraig Ieuan Llwyd o Lyn Aeron y canwyd y cywydd hwn, dichon mai at blwyf Llanbadarn Odwyn y cyfeirir, gw. GLlBH 11, neu at blwyf cyfagos.
13. Pen 54 A rhai grym rhywiog armes, sy'n colli'r cymeriad llythrennol Rhai / Rhoddant ac yn difa'r gynghanedd. Ceir arymes ac armes yn gynnar, gw. GPC 208 a chymh. 135.50 Armes, telynores twyll. Dichon fod armes yn ffurf fwy cyfarwydd erbyn y 15g., ac i'r A ddiangen gael ei hychwanegu er mwyn hyd y llinell.
15–16. Cymh. 107.37–8 Yn gwcwallt salw y'm galwant — / Wb o'r nâd! — am wedd berw nant.
20. y Galais Tref Calais yng ngogledd Ffrainc, a fu dan warchae gan fyddin Edward III yn 1346–7 yn dilyn brwydr Crécy. Cymh. cywydd Iolo Goch i Edward III, GIG I. 37–8 Gelyn fuost i'r Galais / O gael y dref, gorau drais; ceir y Gresi am Crécy, ib. ll. 39.
22. Caerdroea Cyfeiriad at y gwarchae ar Gaerdroea gan wŷr Groeg yn sgil cipio Elen Fannog; cymh. 130.11–14 Trydedd fun, ail Rhun yrhawg / Fu Elen feinwen Fannawg, / Yr hon a beris cyffro / A thrin rhwng Gröeg a Thro. Adroddir hanes cwymp Caerdroea gan Sieffre o Fynwy, Brut Dingestow, 4. Mae Caer Droi Pen 54 sillaf yn fyr.
24. GDG Dwyfron, tŵr Babilon boly, gan ddilyn Pen 54, gyda'r goferiad ddurgoly / Dwyfron ... . Ymddengys y goferiad yn anfoddhaol, yn enwedig gan fod yma gymeriad llythrennol. Digwydd dilon (di- + llon) mewn cyswllt tebyg yn GC 4.20 Penyd bron ddilon, ac yn BBBGDd 67.16 I'm calon ddilon ddolur.
Tŵr Babilon Tŵr Babel, gw. Genesis xi.1–9. Gall di-isel ll. 23 fod yn gyfeiriad at godi'r tŵr a'i nen hyd y nefoedd, ib. 4. Dywedir yn LlA 44 ei fod yn sefyll lle saif dinas Babilon; cymh. GIG I.65–6 Cyrch hyd ym min Constinobl, / Cer bron Caer Bablon cur bobl. Am y ffurfiau Bab(i)lon a Pab(i)lon, gw. GSC 7.14n.
26. cell cerdd Sef calon Dafydd. Cymh. y trosiad gwehydd-dy gwawd yn 102.4 ('Y Galon').
31. A'r maen blif yw'r digrifwch sydd yn Pen 54, lle y mae'r cwpled yn dilyn ll. 42. Gorwedd yn fwy esmwyth yn y fan hon yng nghanol cyfres o haniaethau: gofynag, cariad, digrifwch, hedd. Ymddengys digrifwch fymryn yn anghydnaws gyda throsiadau'r swyddogion dynol o l. 37 ymlaen.
33. llurug Crys mael neu ddwyfronneg yw'r ystyr lythrennol, ond diau fod i llurug ... / ... Gwirdduw fy Nhad arlliw o'r ystyron ffigurol 'amddiffynfa, noddfa' a 'gweddi (fydryddol) am noddfa', gw. GPC 2230. Ystyr llurig D(d)uw yw 'nawdd Duw', e.e. CBT VI, 18.110 lluryc Duw amdanad!; GIG XVII.41–2 Gwisg lurig Dduw, gwaisg loywryw, / Pan gyfotych, tra fych fyw ..., a gw. y nodyn, ib. 283.
diblyg. ddeublyg a geir yn Pen 54, a gellir cymharu hynny â llurig d(d)auddyblyg a llurig d(d)yblyg a drosir yn GPC 2230 '? Coat of mail of double thickness, double coat of mail', gan ddyfynnu ymhlith yr enghreifftiau y cwpled hwn a 7.47–8 Dwbled ym, rym rwymedigaeth—llurig / Dyblig, mad edmig, yw'r mau dadmaeth. Fodd bynnag, ymddengys ddeublyg ddybliad yn annodweddiadol o ailadroddus, a rhydd ddiblyg ystyr addas.
34. gorddyfn hedd Pen 54 gorddwfn hawl.
35–6. Dilynir fersiwn Pen 57. Daw'r cwpled ar ôl ll. 8 uchod yn Pen 54, gyda'r amrywiad Gan fagiad y gynfigen, ac felly GDG ond mai Gan fagad y genfigen sydd yno. Er ei fod yn gweddu yn y fan honno, ymddengys braidd yn ailadroddus, a gallasai grwydro yno ar lafar yn sgil cynfigen / cynfigennus llau. 5–6. Cymerir bod blinder a cynfigen yn gwrthgyferbynnu â hedd ll. 34 fel y mae dirmyg a plyg yn gwrthgyferbynnu â digrifwch yn llau. 31-2.
37. golwg ruddell Cymh. EC vii, 66 Pwy bynnac y bo llygeit mawr idaw dyn kynghoruynnus yw, digewilyd, llesc, ynuyt, ac yn bennaf o'r bydant rudell (c. 1400).
39. ladmer Dyma'r ffurf a geir yn y llsgrau., ond lladmer sydd yn GDG; gw. GPC 2077 d.g. lladmer, ladmer, lat(i)mer.
43. adail Mewn ystyr luosog, gw. GPC2 28 a chymh. FfBO 50 Yno y mae llawer o adeil, y rei nys credei neb onyt a'e gwelei.
44. dilithr GDG dilythr, ac yn ôl ib. 542 dyna'r ffurf yn y tair llsgr. Ond dilithr a geir yn Pen 54, a rhydd y ffurf honno ystyr gwbl addas, 'di-syfl, diysgog'.
48. cael Am enghreifftiau eraill o'r ferf yn yr ystyr 'cipio' caer neu gastell, gw. GDG t. 543.
50. côr Gellid 'llys', ond gwedda'r ystyr 'cysegr' yn well mewn perthynas â saint.
52. caethwas GDG coethwas ar sail Pen 57, ond mae'r llafariad yn debycach i a nag o; gaethwas a geir yng nghopi Pen 312. Mae'r cwpled yn eisiau yn Pen 54.
53. gwddam Y ffurf Cymraeg Canol wddam a geir yn Pen 54 a Pen 57, ond wyddam yn GDG.
54. peiriaint Y ffurf luosog sydd yn y ddwy lsgr. gynnar, ond peiriant yn GDG ar sail camddarllen Pen 54. Cymerir mai 'gorchmynion' a olygir, ond yng ngoleuni delweddaeth y cywydd tybed nad oes yma arlliw o'r ystyr 'offeryn rhyfel ar gyfer dryllio muriau cestyll'? Roedd honno'n ystyr gyffredin yn y 14g., gw. yr enghreifftiau a ddyfynnir yn GPC 2719.
55–6. Awgryma Thomas Parry, GDG t. 543, y gall fod yma gyfeiriad at y modd y credid yn y 14g. ddarfod llofruddio Edward II yn 1327, sef drwy ei drywanu yn ei ben ôl â bêr poeth. Bid a fo am hynny, mae'n debyg yng ngoleuni'r cyfeiriad at warchae Calais yn ll. 20 uchod mai ergyd y llinellau clo yw y bydd bardd Angharad yn fyw ac iach hyd yn oed pe boddid Edward III gan y Ffrancwyr, peth tra annhebygol tra oedd ei lynges yn gwarchae'r dref yn llwyddiannus o'r môr. Gw. GDG xxxiv a sylwadau Saunders Lewis, LlC 2 (1952–3), 202; fel y noda Lewis, mae'r disgrifiad môr angorwaisg yn gyson â'r dehongliad hwn.