â â â Rhagoriaeth y Bardd ar Arall
1â â â Y feinferch, hwde f'anfodd,
2â â â Gwedy'r haf, gwae di o'r rhodd,
3â â â Gofaniaeth ddygn, gwae finnau,
4â â â Riain deg, o'i roi yn dau.
5â â â Gwae ddyn a fai'n dilyn dig
6â â â A geryddai'r gwr eiddig;
7â â â Gwae a wyr, wayw fflamgwyr wedd,
8â â â Glas ei ddeigr, gloes eiddigedd.
9â â â Prydu i'th wedd a wneddwyf,
10â â â Prid yw'r swydd, pryderus wyf.
11â â â Mwy yw 'ngofal, dial dyn,
12â â â No gofal gwr mewn gefyn
13â â â Yng nghlwyd o faen, anghlyd fur,
14â â â A laddai'r Pab o'i loywddur,
15â â â Rhag cael arnad, gwad gwydngroyw,
16â â â Chwedl gwir, forwyn lawir loyw.
17â â â Y mae, modd rhywae, medd rhai,
18â â â Mab dewrfalch, mebyd erfai,
19â â â Wyth affaith nwyf, i'th hoffi
20â â â I'th ddydd, er ymlwgr â thi.
21â â â Cyd boed gwych, cydwybod gwawl,
22â â â A bonheddfalch baun haeddfawl,
23â â â Dêl cyn no'i gymryd, pyd pell,
24â â â Yn dy gof, Indeg efell,
25â â â Na oddef ef, wyf ddicllawn,
26â â â O law na gwynt, loywne gwawn,
27â â â A oddefais i'th geisiaw,
28â â â Amnoeth rwysg, yma na thraw.
29â â â Nid â yn niwanfa, wen,
30â â â Y nos erod, ne seren,
31â â â Ar draws aerwyau drysi,
32â â â Mul ddyn wyl, mal ydd awn i,
33â â â Y sawl waith, lewdaith lud,
34â â â Ydd eddwyf hyd lle'dd oeddud.
35â â â Ni thrig allan, ledwan lif,
36â â â Dan ddagrau to dyn ddigrif
37â â â I mewn cof ac ym min cais,
38â â â Mula' treigl, mal y trigais.
39â â â Ni ddyry ar ei ddeurudd
40â â â O ddwfr brwd, o ddifri brudd,
41â â â Gymaint lifnaint eleni,
42â â â Eigr y serch, ag a rois i.
43â â â Ni chân yng ngwydd arglwyddi
44â â â O wawd hyd dyddbrawd i ti
45â â â Ganfed ran, liw eiry ban bais,
46â â â O ganon cerdd a genais.
47â â â Gwydn wyd yn gwadu'n oedau,
48â â â Gwirion yw'r atebion tau.
49â â â Os tithau a fydd euawg
50â â â O arall rhygall yrhawg,
51â â â Beirddion Cred a ddywedant
52â â â Wrthyd, ne caregryd nant:
53â â â 'Deugrwydr arnad, ddyn digrif,
54â â â Pan wnelych, lliw distrych llif,
55â â â F'enaid glwys fynudiau glân,
56â â â Farchwriaeth ddrwg, ferch eirian,
57â â â Am dy fardd, liw berw hardd bas,
58â â â A'th ogyfoed a'th gafas.'