Y ferch fain, dyma iti fy anfodd,
wedi'r haf, gwae di [iti dderbyn] y rhodd,
gofaniaeth ddygn, gwae finnau,
4 eneth deg, imi ei rhoi iti.
Gwae'r dyn a fo'n canlyn dicter
ac yn ceryddu'r gwr eiddigeddus;
gwae'r neb a fo'n gyfarwydd, gwayw tebyg i gwyr
fflamboeth,
8 llwydlas ei ddagrau, â loes eiddigedd.
Canu i'th wedd a wneuthum,
drud yw'r swydd, pryderus wyf.
Mwy yw fy mhryder, dialedd dyn,
12 na phryder gwr mewn gefyn
mewn arteithglwyd o garreg, mur digysur,
a laddai'r Pab â'i ddur gloyw,
rhag cael amdanat, gwadiad taer a chroyw,
16 hanes gwir, forwyn loyw, hir ei llaw.
Y mae, mewn modd trallodus, medd rhai,
lanc dewr a balch, bachgen rhagorol,
wyth affaith serch, yn dy ganmol
20 yn dy fyw, er mwyn dy dreisio.
Er ei fod yn wych, cydwybod disglair,
ac yn baun bonheddig, balch sy'n haeddu mawl,
cyn ei gymryd, perygl mawr,
24 boed iti gofio, efell Indeg,
nad yw ef yn goddef, dicllon ydwyf,
cymaint o law a gwynt, liw gloyw gwawn,
ag a oddefais innau i'th geisio,
28 yn noeth fy urddas, yma na thraw.
Nid â ar grwydr, f'anwylyd,
yn y nos er dy fwyn, liw seren,
ar draws clymau drysi,
32 ferch dyner, addfwyn, fel yr awn i,
yr holl droeon, taith ddyfal, daer,
yr euthum hyd lle'r oeddet ti.
Nid erys allan, llif egwan,
36 dan ddagrau to merch dirion
mewn cof ac ar fin cais,
ffolaf taith, fel yr arhosais i.
Ni rydd ar ei ddeurudd
40 o ddwr cynnes, o ddifri calon,
gymaint o nentydd llifeiriol eleni,
Eigr serch, ag a roddais i.
Ni chân yng ngwydd arglwyddi
44 o farddoniaeth hyd ddydd y Farn i ti
ganfed ran, liw pais o eira mynydd,
o'r hyn a genais i o ganon cerdd.
Styfnig ydwyt yn gwadu'n cyfarfodydd,
48 ffôl yw dy atebion di.
Os byddi dithau'n anffyddlon
oherwydd dyn arall tra chyfrwys yn awr,
bydd beirdd y byd yn dweud
52 wrthyt, liw rhyd garegog nant:
'Dwy felltith arnat, ferch dirion,
am iti ddarparu, liw ewyn llif,
f'anwylyd brydferth, deg ei moesau,
56 marchogaeth ddrwg, ferch ddisglair,
ar gyfer dy fardd, liw bwrlwm hardd dwr bas,
a'th gyfoed a'th gafodd.'