â â â Campau Merch
1â â â Y ferch borffor ei thorun, 
2â â â Hir nid addefir i ddyn. 
3â â â Anodd ym gysgu unhun 
4â â â Pe canai Dduw huw ei hun. 
5â â â Aeth ulw dros frig wyth aelwyd, 
6â â â Oio, Gysgu ddu! Mae'dd wyd? 
7â â â Anhunog wyf, clwyf yw'r clo, 
8â â â Anhunedd a wn heno. 
9â â â Mi a ddeily swrn meddyliau, 
10â â â Byth neud mul, am beth nid mau, 
11â â â Gwayw llid, er nas caf rhag llaw, 
12â â â Gosyml oedd ym ei geisiaw, 
13â â â Nid amgen, gwen a'm gweeirdd, 
14â â â Eilwydd â bun a ladd beirdd. 
15â â â Dibwyll i fardd hardd heirddryw, 
16â â â Dybio ei chael; dibech yw. 
17â â â Hael yn nhref am heilwin rhwydd, 
18â â â Hoen gwylan, hynag eilwydd. 
19â â â Gwyr luddias gwr i lwyddoed, 
20â â â Gwrm ei hael, goryw ym hoed. 
21â â â Rhwydd am aur o'i goreurwyl, 
22â â â Afrwydd am eilwydd, em wyl. 
23â â â Ufyddgamp leddf i feddgell, 
24â â â Diog i oed pwyllog pell. 
25â â â Mul yn chwarae â chlaear, 
26â â â Diful wrth y cul a'i câr. 
27â â â Hael am y parch nis archwyf, 
28â â â Cybyddes am neges nwyf. 
29â â â Dilaes y deily heb ystryw 
30â â â Olwg ar wr, ail Eigr yw. 
31â â â  Digollwawd bardd digellwair, 
32â â â Da ei chlod, diuchel air; 
33â â â Dyfr o bryd, a'm byd o'm barn, 
34â â â Difawr ei brys i dafarn; 
35â â â Dihoffedd bryd a gwedd gwyr, 
36â â â Dihustyng, da ei hystyr; 
37â â â Diddig yn cynnig ciniaw, 
38â â â Dig wrth ei llatai o daw; 
39â â â Dyddig ei phendefigwalch 
40â â â Wrth wyr y byd, bywyd balch. 
41â â â Ni bu, nid oes i'n oes ni, 
42â â â Ni bydd tebig neb iddi. 
43â â â Nid mor ddiareb nebun 
44â â â I'n gwlad ni â hi ei hun: 
45â â â Yn hael iawn, yn hil ynad, 
46â â â Yn heilio gwledd, yn haul gwlad, 
47â â â Yn fonheddig, yn ddigardd, 
48â â â Yn fain ei hael, yn fun hardd, 
49â â â Yn ennill clod, yn annwyl, 
50â â â Yn dda ei thwf, yn ddoeth wyl, 
51â â â Yn rhy ddiwair ei heirioes, 
52â â â Yn ddyn mwyn, dda iawn ei moes. 
53â â â Tyfodd ym frad lleuad llu, 
54â â â Twf coeth tawelddoeth aelddu. 
55â â â Tegau iesin ddoethineb, 
56â â â Tegach oedd honno no neb.