Edited Text: 124 - Campau Merch

Campau Merch

Y ferch borffor ei thorun,
Hir nid addefir i ddyn.
Anodd ym gysgu unhun
4Pe canai Dduw huw ei hun.
Aeth ulw dros frig wyth aelwyd,
Oio, Gysgu ddu! Mae'dd wyd?
Anhunog wyf, clwyf yw'r clo,
8Anhunedd a wn heno.
Mi a ddeily swrn meddyliau,
Byth neud mul, am beth nid mau,
Gwayw llid, er nas caf rhag llaw,
12Gosyml oedd ym ei geisiaw,
Nid amgen, gwen a'm gweeirdd,
Eilwydd â bun a ladd beirdd.

   Dibwyll i fardd hardd heirddryw,
16Dybio ei chael; dibech yw.
Hael yn nhref am heilwin rhwydd,
Hoen gwylan, hynag eilwydd.
Gŵyr luddias gŵr i lwyddoed,
20Gwrm ei hael, goryw ym hoed.
Rhwydd am aur o'i goreurwyl,
Afrwydd am eilwydd, em ŵyl.
Ufyddgamp leddf i feddgell,
24Diog i oed pwyllog pell.
Mul yn chwarae â chlaear,
Diful wrth y cul a'i câr.
Hael am y parch nis archwyf,
28Cybyddes am neges nwyf.
Dilaes y deily heb ystryw
Olwg ar ŵr, ail Eigr yw.
Digollwawd bardd digellwair,
32Da ei chlod, diuchel air;
Dyfr o bryd, a'm byd o'm barn,
Difawr ei brys i dafarn;
Dihoffedd bryd a gwedd gwŷr,
36Dihustyng, da ei hystyr;
Diddig yn cynnig ciniaw,
Dig wrth ei llatai o daw;
Dyddig ei phendefigwalch
40Wrth wŷr y byd, bywyd balch.
Ni bu, nid oes i'n oes ni,
Ni bydd tebig neb iddi.
Nid mor ddiareb nebun
44I'n gwlad ni â hi ei hun:
Yn hael iawn, yn hil ynad,
Yn heilio gwledd, yn haul gwlad,
Yn fonheddig, yn ddigardd,
48Yn fain ei hael, yn fun hardd,
Yn ennill clod, yn annwyl,
Yn dda ei thwf, yn ddoeth ŵyl,
Yn rhy ddiwair ei heirioes,
52Yn ddyn mwyn, dda iawn ei moes.

   Tyfodd ym frad lleuad llu,
Twf coeth tawelddoeth aelddu.
Tegau iesin ddoethineb,
56Tegach oedd honno no neb.