| Campau Merch | |
| Y ferch borffor ei thorun, | |
| Hir nid addefir i ddyn. | |
| Anodd ym gysgu unhun | |
| 4 | Pe canai Dduw huw ei hun. |
| Aeth ulw dros frig wyth aelwyd, | |
| Oio, Gysgu ddu! Mae'dd wyd? | |
| Anhunog wyf, clwyf yw'r clo, | |
| 8 | Anhunedd a wn heno. |
| Mi a ddeily swrn meddyliau, | |
| Byth neud mul, am beth nid mau, | |
| Gwayw llid, er nas caf rhag llaw, | |
| 12 | Gosyml oedd ym ei geisiaw, |
| Nid amgen, gwen a'm gweeirdd, | |
| Eilwydd â bun a ladd beirdd. | |
| Dibwyll i fardd hardd heirddryw, | |
| 16 | Dybio ei chael; dibech yw. |
| Hael yn nhref am heilwin rhwydd, | |
| Hoen gwylan, hynag eilwydd. | |
| Gŵyr luddias gŵr i lwyddoed, | |
| 20 | Gwrm ei hael, goryw ym hoed. |
| Rhwydd am aur o'i goreurwyl, | |
| Afrwydd am eilwydd, em ŵyl. | |
| Ufyddgamp leddf i feddgell, | |
| 24 | Diog i oed pwyllog pell. |
| Mul yn chwarae â chlaear, | |
| Diful wrth y cul a'i câr. | |
| Hael am y parch nis archwyf, | |
| 28 | Cybyddes am neges nwyf. |
| Dilaes y deily heb ystryw | |
| Olwg ar ŵr, ail Eigr yw. | |
| Digollwawd bardd digellwair, | |
| 32 | Da ei chlod, diuchel air; |
| Dyfr o bryd, a'm byd o'm barn, | |
| Difawr ei brys i dafarn; | |
| Dihoffedd bryd a gwedd gwŷr, | |
| 36 | Dihustyng, da ei hystyr; |
| Diddig yn cynnig ciniaw, | |
| Dig wrth ei llatai o daw; | |
| Dyddig ei phendefigwalch | |
| 40 | Wrth wŷr y byd, bywyd balch. |
| Ni bu, nid oes i'n oes ni, | |
| Ni bydd tebig neb iddi. | |
| Nid mor ddiareb nebun | |
| 44 | I'n gwlad ni â hi ei hun: |
| Yn hael iawn, yn hil ynad, | |
| Yn heilio gwledd, yn haul gwlad, | |
| Yn fonheddig, yn ddigardd, | |
| 48 | Yn fain ei hael, yn fun hardd, |
| Yn ennill clod, yn annwyl, | |
| Yn dda ei thwf, yn ddoeth ŵyl, | |
| Yn rhy ddiwair ei heirioes, | |
| 52 | Yn ddyn mwyn, dda iawn ei moes. |
| Tyfodd ym frad lleuad llu, | |
| Twf coeth tawelddoeth aelddu. | |
| Tegau iesin ddoethineb, | |
| 56 | Tegach oedd honno no neb. |