Campau Merch
Y ferch borffor ei mantell,
ni chadarnheir hi am yn hir i ddyn.
[Byddai'n] anodd imi gysgu un mymryn
4 [hyd yn oed] pe bai Duw yn canu hwiangerdd ei hun.
Aeth lludw dros ben wyth aelwyd-
o, Gysgu ddu! Ymhle yr wyt?
Digwsg wyf (clwyf yw'r clo),
8 gwn ddiffyg cwsg heno.
Fi sy'n dal amlder o feddyliau
(bydd yn ffôl am byth) am rywbeth nad yw'n eiddo imi
(poen gwylltineb) er na chaf ef yn fuan
12 (byddai'n wirion imi ei geisio),
sef (mae morwyn yn fy ngwahardd)
cyfarfod â merch sy'n lladd beirdd.
[Mae'n] ffôl i fardd hardd o linach falch
16 dybio [y gallai] ei chael; difai yw hi.
[Mae'n] hael gartref o ran gwin a dywelltir yn rhwydd,
[â'r un] pryd â gwylan, un anhael [o ran] cyfarfod
[serchus].
Mae'n gyfarwydd â rhwystro gwr rhag cael oed
llwyddiannus,
20 tywyll ei hael, mae wedi creu tristwch imi.
Hael o ran aur o'i gwledd orau,
anhael o ran cyfarfod, gem wylaidd.
Yn ddiymhongar ei gweithred fwyn [wrth fynd] i feddgell,
24 yn ddiog [o ran mynd] i oed pell [a drefnwyd yn] ofalus.
Diniwed yn chwarae â [gwr] llugoer,
haerllug wrth y [gwr] main sy'n ei charu.
Hael o ran y parch nad wyf yn ei geisio,
28 cybyddes o ran neges nwyf.
Yn agored y ceidw heb ddichell
[ei] golwg ar wr, ail Eigr ydyw.
Cerdd berffaith bardd digellwair [ydyw],
32 da ei chlod, didraha [ei] gair;
[fel] Dyfr o [ran ei] phryd, a [hi yw] fy myd yn fy marn i,
nid mawr ei brys i dafarn;
[â] phryd a gwedd gwylaidd [o flaen] gwyr,
36 heb sibrwd [am serch], da ei synnwyr;
rhadlon yn cynnig cinio,
dig wrth ei llatai os daw;
ffyrnig [yw] ei harglwydd pendefig
40 wrth wyr y byd, bywyd balch.
Ni fu, nid oes yn ein hoes ni,
ni fydd neb yn debyg iddi.
Nid oes neb mor ddiarhebol
44 yn ein gwlad ni â hi ei hun:
yn hael iawn, o linach ynad,
yn darparu gwledd, yn haul gwlad,
yn fonheddig, yn ddi-fai,
48 yn fain ei hael, yn ferch hardd,
yn ennill clod, yn annwyl,
yn dda ei chorff, yn ddoeth a gwylaidd.
yn ddiwair iawn ei hanian,
52 yn ddyn mwyn, yn dda iawn ei moesau.
Lluniodd lleuad llu frad yn fy erbyn,
corff hardd tawel a doeth ag aeliau du.
Tegau ddisglair ei doethineb,
56 tecach oedd honno na neb.