â â â Y Bardd yn Onest
1â â â Cerddais yn gynt, helynt hir,
2â â â No mellten ddeunaw milltir.
3â â â Ni chyhyrddawdd, mau gawddnwyf,
4â â â Neithiwyr ym, taranrhuthr wyf,
5â â â Blaen fy nhroed, blin yw fy nhranc,
6â â â Â'r ddaear, arwydd ieuanc.
7â â â Unfryd wyf yn y fro deg
8â â â Â Thrystan uthr ar osteg.
9â â â Ni thyr crinbren, dien dwyll,
10â â â Dan droed ym, dyn drud amwyll.
11â â â Ni throais, anoeth reol,
12â â â Fy wyneb, er neb, yn ôl.
13â â â Euthum yn gynt no gwynt gwyllt
14â â â I lys y fun, ail Esyllt.
15â â â Rhoddais, ac ni henwais hi,
16â â â Aing roddiad, gyngor iddi.
17â â â 'Na fydd salw, ferch syndalwisg,
18â â â Ar dy fryd, hoen eiry di-frisg,
19â â â Yn ôl yr hir, feinir fwyn,
20â â â Ymaros o fraint morwyn.
21â â â Na fyn, dros ymofyn Mai,
22â â â Fawddyn, drwg y'th gydfyddai.
23â â â Cenhedlog rywiog riain,
24â â â Câr di a'th gâr, dyn doeth gain.'
25â â â 'Ys gwaeth, medd y famaeth fau,
26â â â Ym weithian am fy moethau.
27â â â Gwelais lawer, fab Gwilym,
28â â â Gael gwr a wnelai gelg ym.'
29â â â 'Nid celgwr gwr a garo,
30â â â Ni thrig mewn gweniaith na thro.
31â â â Ni mynnwn, bei gallwn gael,
32â â â Dy dwyllo, du dy ellael.
33â â â Nid oeddwn wr, gloywdwr glân,
34â â â I'th dwyllo o'th dy allan.
35â â â Ni'th dwyll dyn byw, nawddryw nêr,
36â â â Yn lle bwyf, enllib ofer.
37â â â Dianair yw dy wyneb,
38â â â Dillyn ym, ni'th dwyllo neb.'