Y Bardd yn Onest
Cerddais yn gyflymach na mellten
am ddeunaw milltir, helfa hir.
Ni chyffyrddodd blaen fy nhroed
4 â'r ddaear gennyf neithiwr,
rwy'n rhuthro fel taran, nodwedd dyn ifanc,
fy awydd poenus, blin yw fy lladdfa.
Yr un fath yw fy meddwl yn y fro deg
8 â Thrystan nerthol yng ngolwg y byd.
Ni fydd pren crin yn torri dan fy nhroed,
twyll di-fai, dyn ffôl disynnwyr.
Ni throais fy wyneb tuag yn ôl
12 er mwyn neb, dull rhyfeddol.
Euthum yn gyflymach na gwynt gwyllt
i lys y ferch sydd fel ail Esyllt.
Rhoddais gyngor iddi
16 heb ei henwi, rhoddwr trachwantus.
'Paid â dibrisio dy hun,
y ferch â'r wisg sidanaidd, lliw eira di-sathr,
ar ôl aros yn hir yng nghyflwr morwyn,
20 yr un fain, dal a thyner.
Paid â mynnu, yn lle dymuno Mai,
rhyw gnaf, ni fyddai'n weddus i ti o gwbl.
Foneddiges uchel ei thras,
24 cara di'r sawl sy'n dy garu dithau, ferch ddoeth a chain.'
'Yn ôl fy mamaeth, mae'n waeth i mi
nawr o ran fy mywyd esmwyth.
Gwelais sawl un, fab Gwilym,
28 yn cymryd gwr a fyddai yn fy nhwyllo.'
'Nid twyllwr yw gwr sy'n caru,
ni fydd yn gwenieithio nac yn gwamalu'n barhaus.
Ni fynnwn dy dwyllo,
32 hyd yn oed pe gallwn i, du yw dy ael tywyll.
Nid wyf yn wr a fyddai'n dy ddenu trwy dwyll
allan o'th dy, twr disglair hardd.
Ni fydd dyn byw yn dy dwyllo (enllib dibwrpas)
36 lle byddaf i, arglwydd gwarcheidiol.
Di-fai yw dy wyneb,
36 gem i mi, na foed i neb dy dwyllo.'