1 Kerddais yn gynt helynt hir
2 na mellten ddaunaw milltir
3 ny chyhwrddawdd nau gawddnwyf
4 naithwyr ym tra raithr wyf
5 blaen yn Roed blin yw yn Rank
6 ar ddaear arwydd iauank
7 vnfryd wyf yny vro deg
8 a Thrustan eithr ar osteg
9 ny thyrr krinbrenn dien dwyll
10 dan droed ym dyn drud amwyll
11 ny throais anoeth rheol
12 vy wyneb er neb yn ol
13 eythym yn gynt na gwynt gwyllt
14 i lys y vvn ail Esyllt
15 Roddais ag ny henwais hi
16 gaing roddiad gyngor yddi
17 na vydd salw yth syndalwisg
18 ar dy vryd hoen eiry di vrisg
19 yn ol yr hir vainir vwyn
20 ymaros o vraint morwyn
21 na vynn dros ymovyn mai
22 vawddyn drwg yth gydfyddai
23 [525] kynedlawg Rywiawg Riain
24 kar di ath gar dyn doeth gain
25 ysgwaeth medd y vamaeth vav
26 ym waithan am vy moethav
27 gwelais lawer vab Gwilym
28 gael gwr a wnelai gelg ym
29 nyd kelgwr gwr a garo
30 ny thrig mewn gweniaith na thro
31 ny mynwn be gallwn gael
32 dy dwyllaw ai dy allael
33 nyd oeddwn wr glerwr glan
34 yth dwyllo oth dy allan
35 nyth dwyll dyn byw nawddryw ner
36 yn lle bwyf enllib over
37 di anair yw dy wyneb
38 dyllyn ym nyth dwyllo neb
Davydd ap gwilym ai kant