1 kerddeis yn gynt hollynt hir
2 no mellten ddevnaw milltir
3 ni chyhirddawdd mevgawddnwyf
4 neithiwyr ym travanwthr wyf
5 blaen ynrhoet blin yw ynrank
6 ar ddayar arwydd Ievank
7 [32v] vn vryt wyf yn y vro dec
8 a thristan vthr ar ostec
9 ny thyrr krynbrenn dien dwyll
10 dan droet ym dyn drut ammwyl
11 ni throeis anoeth reol
12 vy wyneb er neb yn ol
13 evthum yn gynt no gwyntgwyllt
14 E lys y vvn eil Essyllt
15 roddeis ac ny henweis hi
16 Eing roddiat gyngor iddi
17 na vydd salw verch syndalwisg
18 ar dy vryt hoen eira dyvrisg
19 ynol yr hir veinir vwyn
20 ymaros o vreint morwyn
21 na vynn dros ymovynn mai
22 vawddyn drwc yth gytvyddai
23 kynedlawc rywiawc riain
24 kar di ath gar dyn doeth kain
25 ysgwaeth medd y vamaeth veu
26 ym weithian am vy moethev
27 [33r] gweleis lawer vab gwilym
28 gael gwr a wnelei gelg ym
29 nit kelkwr gwr a garo
30 ni thric mewn gweinieith na
thro
31 ni mynnwn bei gallwn gael
32 dy dwyllaw dv dy ellael
33 nit oeddwn wr gloywdwr glan
34 yth dwyllaw oth dy allan
35 nyth dwyll dyn byw nawddryw ner
36 yn lle bwyf enllib over
37 dianeir yw dy wyneb
38 dillyn ym nyth dwyllo neb
davydd ap glim'