llyma gywydd y kerdded
1 kerddais yn gynt helynt hir
2 na mellten ddaunaw milltir
3 ny chyhyrddawdd naugawdd nwyf
4 naithwyr ym tra Raithwr wyf
5 blaen yn Roed blin yw yn Rank
6 ar ddaear arwydd iauank
7 vn vryd wyf yny vro deg
8 a Thrystan eithr ar osteg
9 ny thyrr krinbren dien dwyll
10 dan droed ym dyn drvd amwyll
11 ny throais anoeth Reol
12 vy wyneb er neb yn ol
13 eythym yn gynt na gwynt gwyllt
14 i lys y vvn ail Esyllt
15 Roddais ag ny henwais hi
16 gaing roddiad gyngor yddi
17 na vydd salw yth sandalwisg
18 ar dy vryd hoen eiry dy vrisg
19 yn ol yr hir vainir vwyn
20 ymaros o vraint morwyn
21 na vynn dros ymovyn mai
22 vawddyn drwg yth gyfyddai
23 kenedlawg Rywiawg Riain
24 kar di ath gar dyn doeth gain
25 [296r] ysgwaeth medd y vamaeth vav
26 ym waithan am vy moethav
27 gwelais lawer vab Gwilym
28 gael gwr a wnelai gelg ym
29 nid kelgwr gwr a garo
30 ny thrig mewn gweniaith na thro
31 ny mynwn bai gallwn gael
32 dy dwyllaw au dy allael
33 nid oeddwn wr glerwr glan
34 yth dwyllo oth dy allan
35 nyth dwyll dyn byw nawdduw ner
36 yn lle bwyf enllib over
37 di anair yw dy wyneb
38 dyllyn ym nyth dwyllo neb
Davydd ap Gwilim ai kant