â â â Cyfeddach
â â â Gildiais fal gildiwr ar fin
â â â Gildio'n lud, golden ladin.
â â â Gildiais yn ddinidr ddidrist,
4â â â Gild cryf, myn goleuad Crist,
â â â Gildiad, nid chwitafad hallt,
â â â Gildwin er fy nyn goldwallt.
â â â Gwych y medrais, haeddais hedd,
8â â â Gwaith da rhwyddfaith diryfedd,
â â â Gwiw ddysgnwyf, roi gweddusgnwd
â â â Gwinwydd Ffrainc er gwenwedd ffrwd.
â â â Petem Ddyw Pasg yng Ngasgwyn,
12â â â Buan fydd, mi a bun fwyn,
â â â Didlawd oedd pai'n diawdlyn
â â â Er claer dwf o'r clared ynn.
â â â Herwydd barn y tafarnwas,
16â â â Hir y'm câr a hwyr y'm cas,
â â â Y pedwerydd mydrddydd mad
â â â Fu heddiw, fau wahoddiad.
â â â Meddwn innau, gau gerydd,
20â â â 'Truan nid oedd traean dydd'.
â â â Ef a bair, ddyn gywair ged,
â â â Fy nwyforc i fun yfed.
â â â Gwelid er gwen ar ben bwrdd
24â â â Gwanegu gwin yn agwrdd.
â â â Hir yw'r cylch, cylchwy didryf,
â â â A hy yw'r cariad a'i hyf.
â â â Hawdd yfaf, dibrinnaf bryn,
28â â â Hawdd yf a wyl ei hoywddyn.