Cyfeddach
Telais fel talwr ar fin
talu'n ddyfal [am] dywalltiad euraid,
telais yn ddirwystr [ac yn] ddidrist,
4 taliad cadarn, myn goleuad Crist,
taliad, nid [am] gwrw sâl,
[ond am] win y talwyd amdano er [mwyn] fy merch â gwallt
euraid.
Yn wych y medrais - haeddais hedd,
8 gwaith da rhwyddfaith diryfedd,
chwant dysg teilwng - roi cnwd gweddus
[o] winwydd Ffrainc er [un ag] ymddangosiad gwyn ffrwd.
Petaem Ddydd y Pasg yng Ngwasgwyn -
12 bydd [hynny] yn fuan - mi a['r] ferch fwyn,
byddai['r] tâl [am] ein diod yn hael
er mwyn [cael] llif gloyw o'r clared inni.
Yn ôl barn gwas y dafarn -
16 fe'm câr yn hir ac yn hwyr y'm casâ -
y pedwerydd dydd da o farddoniaeth
fu heddiw, [ar] fy ngwahoddiad i.
Meddwn innau, cerydd ffug,
20 '[Mae'n] druan na fyddai ond traean dydd'.
Fe bair - ferch [â] rhodd barod -
fy nwy forc i ferch yfed.
Gwelid er [mwyn y] ferch ar ben bwrdd
24 arllwys gwin yn gryf.
Hir yw'r cylch, cwmpas gwyllt,
a hy yw'r cariad sy'n ei yfed.
Yn hawdd yr yfaf, pryniad [yr un] haelaf,
28 yn hawdd yr yf y sawl a wêl ei ferch fywiog.