Nodiadau: 126 - Cyfeddach

Fersiwn hwylus i

GDG 132

Yn y cywydd hwn y mae'r bardd yn ymhyfrydu yn y profiad o dalu am winoedd iddo ef ei hun a'i gariad. Mae'r gerdd wedi'i lleoli mewn tafarn, ond dychmyga'r bardd sut y gallai brynu clared petai gyda'i gariad yng Ngwasgwyn adeg y Pasg. Daw â'r gerdd i ben drwy nodi mor hawdd yw i ddyn yfed wrth edrych ar ei gariad bywiog.

Teitl y cywydd yn M 212 yw 'K: y gildio' ('Cywydd y Gildio'), a dengys y pwyslais a roddir ar y gair gild ar ddechrau'r gerdd fod yr enw hwnnw'n dra addas. Nid yw gild yn air cyffredin, fodd bynnag, fel a welir o drafodaeth fanwl Nicolas Jacobs, 'Geirfa Diota Dafydd: GDG 132, 1–6 gildio, golden ladin', SC, xxviii (1994), 174–7. Dengys ef mai o ffurfiau S.C. sy'n cyfateb i'r S. Diweddar yield y cafwyd gild, ac i'r gair fagu g ddechreuol fel y gwnaeth geiriau benthyg eraill megis gonest a gordro. Mae'n debyg mai ystyr gild a gildiad yw 'taliad', a gellir cyfieithu gildio yn 'talu' a gildwin yn 'gwin y talwyd amdano'.

Cynghanedd: croes 8 ll. (29%), traws 5 ll. (18%), traws bengoll 1 ll. (4%), trawslusg 1 ll. (4%), sain 8 ll. (29%), seingroes 1 ll. (4%), llusg 3 ll. (11%), braidd gyffwrdd 1 ll. (4%).

Nid oes ond un fersiwn sylfaenol o'r gerdd hon, a cheid hwnnw yn Llyfr Gwyn Hergest. Copïau o LlGH yw Pen 49 a Wy 2, ac mae M 212 hefyd yn perthyn yn agos i LlGH, er nad yw'n gopi uniongyrchol ohono.

1.   Cynghanedd bengoll, neu r berfeddgoll.

ar fin   Anodd gwybod a fyddai'r ystyr sydd i'r ymadrodd hwn ar lafar heddiw, sef 'â chala a chodiad arni' (gw. GPC 2460), yn hysbys yng nghyfnod Dafydd. Ond yn sicr, ceir enghreifftiau nid annhebyg o fwyseiriau eraill yn ei waith. Nodir yn DGHP 259 y gellid cyfieithu'r ll. hon fel a ganlyn: 'I paid like one who pays on the lip', a 'with the lip' a geir yn DGTP 242.

2. golden ladin   Trafodir yr ymadrodd hwn yn fanwl yn Jacobs (1994, 176–7). Ymddengys fod golden yn fenthyciad o'r S.C. golden 'euraid'. Erys yr ail elfen yn fwy tywyll, ond tybir ei fod yn fenthyciad o'r S.C. lading yn yr ystyr 'tywalltiad'.

4. cryf   Sylwer ar yr ystyr 'cadarn, meddwol (am ddiod)' a geir yn GPC 621.

5. chwitafad   Gair prin; hon yw'r unig enghraifft yn GPC 858 na ddaw o eiriadur. Cynigir yno'r ystyr 'gwin diflas; diod fain' gan awgrymu'n betrus fod y gair yn gyfuniad o'r S. whet + tafod. Amheuir y dehongliad hwnnw gan Jacobs (1994, 176 n30). Awgryma'n hytrach y dylid cysylltu'r gair â'r S. whittawer 'sef math arbennig o farcer ... Os felly, rhyw drwyth gwrthun a ddefnyddid i drin lledr fyddai chwitafad, a hynny'n drosiad naturiol am gwrw sâl'.

8. rhwyddfaith   Gellid hefyd rwyddfaith fel yn GDG. Ymddengys nad oedd LlGH yn gwahaniaethu rhwng /r/ a /rh/.

9. roi   Gellid hefyd ddarllen rhoi yma, cf. ll. 8n.

11. yng Ngasgwyn   Amlwg mai darlleniad megis ngascyn oedd yn LlGH. Gall mai ffurf heb yr w oedd yn ffynhonnell M 212 hithau, ac i gopïydd ei hadfer er mwyn yr odl. Roedd Gasgwyn yn eiddo i frenin Lloegr fel rhan o ddugiaeth Acwitain. Ond roedd y cwestiwn a ddylai'r dug (sef brenin Lloegr) dalu gwrogaeth i frenin Ffrainc yn bwnc llosg mawr yn ystod y bedwaredd ganrif ar ddeg, gw. Pierre Chaplais, 'English arguments concerning the feudal status of Aquitaine in the fourteenth century', Bulletin of the Institute of Historical Research, 21 (1946–8), 203–13. Roedd yr anghyd-weld hwn yn o'r rhesymau dros Ryfel y Can Mlynedd, a ddechreuodd yn 1337.

13.  Cynghanedd drawslusg (ar y gynghanedd lusg yma gw. J. Morris-Jones: CD 175–6).

pai   Mae M 212 a Wy 2 yn cytuno ar y ffurf pai, a dyna felly ddarlleniad tebygol LlGH. Darlleniad Pen 49 yw pe – amlwg fod y Dr John Davies wedi deall pai ei gynsail i gynrychioli'r gn. pei, ac wedi camddiweddaru hynny i pe. Dilynodd GDG yr un trywydd, ond gan ddefnyddio'r ffurf pei. Cymerir yma fod pai yn ffurf amrywiol ar pae 'tâl, taliad, cyflog', gw. GPC 2669 d.g. pai2 ac ib. 2667 d.g. pae lle nodir enghraifft o'r 14g.

19.   Ar y gynghanedd sain hon, lle ceir cytsain 'yn rhagor ar ddiwedd y goben nag yn yr orffwysfa', gw. J. Morris-Jones: CD 187–8.

20. traean dydd   Cf. GDG 110 (40.2) am draean nos a'r dywediad mwy cyfarwydd hanner dydd.

21. ddyn   Ymddengys mai dyn oedd darlleniad LlGH, ond gallai hynny gynrychioli dyn neu ddyn. Dilynwyd dehongliad Pen 49 yma. Cf. uchod ll. 7n a 13n.

22. i fun   Gellir esbonio ffurfiau'r llsgrau. drwy gymryd mai uun oedd yng nghynsail y tair llawysgrif (cf. darlleniadau ll. 8 a 9), a bod yr u gyntaf wedi'i chamddarllen yn n yn M 212. Nid oes tystiolaeth o blaid ffurf GDG (ddyn) yn unrhyw un o'r tair llsgr. bwysig.

24.   Un n yn ateb dwy.

25. cylch   Mae awgrym DGHP 259 y gallai hwn olygu 'round, perhaps as in a "round" of drinks' yn eithaf posibl.

cylchwy didryf   Gellir esbonio amrywiadau'r llsgrau. drwy ddilyn GDG a chymryd mai cylchwy yw'r darlleniad gorau. Os felly, gwelir yn M 212 ddisodli cylchwy gan y gair mwy cyfarwydd kyfryw. Dengys darlleniad LlGH wedyn (neu ddarlleniadau Pen 49 a Wy 2 ill dwy ar wahan) i cylchwy/kylchwy gael ei ddehongli'n dalfyriad o'r ffurf f. cylchwyf. Gwelir treiglo ar ôl y ffurf f. dybiedig yn Pen 49 gan esgor ar ddidryf (byddai orgraff ffynhonnell LlGH yn amwys, cf. uchod ll. 7n, ac mae'n amlwg o'r tanlinellu bod y darlleniad yn ansicr ym marn y Dr John Davies).

28.   Cymh. y ddihareb hon o gasgliad Llyfr Coch Hergest (970.28 a 1068.32): 'Hawd yf a wyl y wely'.