â â â Gwayw Serch
1â â â Y ferch yn yr aur llathrloyw
2â â â A welais, hoen geirwfais hoyw,
3â â â Yn aur o'r pen bwy gilydd,
4â â â Yn rhiain wiw, deuliw dydd,
5â â â Yn gwarando salm balchnoe
6â â â Yng nghôr Deinioel Bangor doe.
7â â â Digon i'r byd o degwch;
8â â â Deugur, bryd Fflur, i'i brawd fflwch
9â â â Weled y wenferch wiwlwys,
10â â â Wi o'r dydd! mau wewyr dwys.
11â â â Â seithochr wayw y'm saethawdd
12â â â A sythdod, cymhendod cawdd;
13â â â Gwenwyn awch, gwn fy nychu,
14â â â Gwyn eiddigion gwlad Fôn fu.
15â â â Nis tyn dyn dan wybr sygnau,
16â â â I mewn y galon y mae.
17â â â Nis gorug gof ei guraw,
18â â â Nis gwnaeth llifedigaeth llaw,
19â â â Ni wys na lliw, gwiw gwawdradd,
20â â â Na llun y dost arf a'm lladd.
21â â â Gorwyf o'm gwiwnwyf a'm gwedd,
22â â â Gorffwyll am gannwyll Gwynedd.
23â â â Gwae fyfi, gwayw a'm hirbair
24â â â Gwyn fy myd, ail gwiwne Mair.
25â â â Gwydn ynof gwayw deunownych,
26â â â Gwas prudd a wnâi'r grudd yn grych.
27â â â Gwynia'n dost, gwenwyn a dâl,
28â â â Gwayw llifaid, gwäell ofal.
29â â â Esyllt bryd a'i dyd er dig,
30â â â Aseth cledr dwyfron ysig.
31â â â Trwm yw ynof ei hirgadw,
32â â â Trwyddew fy mron friwdon fradw,
33â â â Trefnloes fynawyd cariad,
34â â â Triawch saeth fydd brawdfaeth brad.