Gwayw Serch
Y ferch yn yr aur disglair llachar
a welais, lliw hyfryd ewyn,
yn aur o'i chorun i'w sawdl,
4 yn ferch weddus, deuliw dydd,
yn gwrando ar gân arch Noa
yng nghôr Deiniol Bangor ddoe.
Mae digon o degwch i'r byd;
8 dau gur, wyneb Fflur, i'w brawd hael
[oedd] gweld y ferch wen deilwng a thirion,
och o'r dydd! gwewyr dwys yw f'eiddo.
Saethodd fi gyda gwayw saith ochr,
12 a sythdod, haerllugrwydd llid.
Gwenwyn cryf, gwn fy mod yn gwaelu,
dymuniad y rhai eiddig ym Môn oedd hyn.
Ni all neb dan awyr serog ei dynnu,
16 o fewn y galon y mae.
Ni wnaeth gof ei guro,
ni chafodd ei finio â llaw,
ni wyddys na lliw teilwng clodforus,
20 na siâp yr arf arw a'm lladdodd fi.
Rwyf wedi mynd yn wallgof
gan golli fy llawenydd iawn a'm golwg am gannwyll Gwynedd.
Gwae fi, mae f'anwylyd yn peri gwayw
24 am amser hir i mi, lliw da fel un Mair.
Yn galed ynof mae gwayw o ddeunaw dioddefaint,
gwas trist a wnâi fy wyneb yn grychau.
Mae'n brifo'n greulon, mae'n talu â gwenwyn,
28 gwayw miniog, gwäell boenus.
Un o'r un gwedd ag Esyllt sy'n ei roi i mi o ddicter,
gwialen asgwrn y ddwy fron friwedig,
trist iawn yw ei gadw am amser hir ynof,
32 ebill y fron sy'n doredig a threuliedig,
mynawyd arteithiol cariad,
tair poen saeth fydd yn frawd maeth i frad.