Truan mor glaf yw Dafydd,
Trwyddew serch trwyddo y sydd.
Saif y cwpled hwn ar ddechrau cywydd cyntaf yr ymryson mewn nifer o
lawysgrifau (gan gynnwys M 160 yn llaw Wmffre Dafis), ac er nas derbyniwyd gan
Parry (gw. GDG t. 528) mae'n fwy priodol yno gan ei fod yn cyfeirio at Ddafydd
yn y trydydd person (gw. ymhellach 23.1-2n). Efallai bod copi ar un adeg
heb briodoliad, a'r ddau gywydd yn rhedeg o un i'r llall? Mae lleoliad y cwpled
hwn yn y gerdd hon mewn rhai copïau, fodd bynnag, yn ategu'r cysylltiad
rhwng yr ymryson a'r cywydd hwn ac yn dangos unwaith eto eu bod yn perthyn yn
agos iawn at ei gilydd. 1. yn Mae C 5 a llsgrau Llywelyn
Siôn yn gytûn ar y darlleniad hwn, ond ceir dan yn fersiynau y Vetustus ac Wmffre Dafis. Mae
yn yn cyd-fynd â'r awgrym yn ll. 3 bod y
ferch yn gwisgo aur, ac felly mae'n llai amwys na dan,
a allai olygu mai dim ond penwisg aur oedd ganddi. 2. Sylwer mai gerais a geir yn lle
gwelais ymhob fersiwn ond un y Vetustus. Dengys y
cyd-destun mai gwelais sy'n gywir. 5. gwarando Ceir y ffurf ddeusill
gwrando yn y llawysgrifau, ond mae'r llinell sillaf yn
fyr (oni ddilynir Wmffre Dafis a Llywelyn Siôn, gwrando ar). Diwygiodd Parry i'r ffurf hon, a oedd yn
ddigon cyffredin yn yr Oesoedd Canol, gw. ymhellach 39.3n. balchnoe arch Noa. Ceir trafodaeth ar y
gair gan J. E. Caerwyn Williams ('Balchnoe', Y
Traethodydd, 134 (1979), 139-41), T. M. Chotzen, ('À Propos
de Deux Allusions chez Dafydd ab Gwilym', Revue
Celtique, 44 (1927), 68-75) ac Enid Roberts ('Dafydd ap Gwilym a
Bangor', Yr Haul a'r Gangell (1982), 14-21.). Gw.
hefyd nodyn Parry, GDG t. 528. 6. Deinioel Mae'r llawysgrifau yn
amrywio cryn dipyn o ran union sillafiad enw'r sant - ceir
Daniel, Deniel, a
Deiniel yn ogystal â Deinioel a Deiniol. Gw. nodyn ar
95.32 lle cadarnheir y ffurf hon gan yr odl. Deiniol yw'r sant erbyn hyn, ac ef
yw nawddsant y gadeirlan ym Mangor. 8. Fflur gw. 156.15n. brawd Ceir brad
yn fersiynau y Vetustus a Llywelyn Siôn, ond hwn yw darlleniad Wmffre
Dafis a Pen 76 (mae'r gair yn eisiau yn C 5). Cymerir bod hyn yn cyfeirio at y
bardd ei hun a ddioddefodd y cur o weld y ferch. 10. dydd Ceir dawn yn y rhan fwyaf o'r llawysgrifau, a dim ond Llywelyn
Siôn sy'n cynnig y darlleniad hwn, ond mae'n cysylltu'n dda â
doe yn ll. 6. 11. seithochr wayw Cymerir mai gwayw
efo saith ochr iddi sydd gan y bardd yma, ond nid oes tystiolaeth bod unrhyw
wayw penodol gyda saith ochr. Y dewis arall yw sythochr
ond mae synnwyr yn dweud bod gan bob gwayw ochr syth. Byddai picell gyda saith
ochr, yn enwedig saith ochr ar y pen miniog, yn gwneud mwy o ddifrod nag un
esmwyth. 12. sythdod Dewisodd Parry y darlleniad
seithwawd, a geir yn llawysgrifau Wmffre Dafis (cymh.
sythwawd Llywelyn Siôn), ond nid yw
gwawd (sef mawl neu gerdd) yn addas yma. 14. gwyn eiddigion Mae ansicrwydd yma
ai gwyn ynteu gwyn yw'r
gair. Yr unig lsgrau sy'n ei gynnwys yw H 26 a rhai Llywelyn Siôn; mae'r
ffurf gwyn yn H 26 yn amwys, ond mae gwynn yn C 5.44 o blaid darlleniad y testun. Mae'r ddau air
yn gweddu o ran ystyr: 'gwyn eiddigion' sef 'dymuniad y bobl eiddig', neu
'gwyn eiddigion', 'poen, artaith y bobl eiddig', ond efallai yn y
cyd-destun bod y cyntaf yn well: mae'r bobl eiddig eisiau i Ddafydd
ddioddef. 15. Yr unig gynghanedd sydd yn y llinell hon yw'r
gyfatebiaeth rhwng dyn a dan,
sef cynghanedd braidd gyffwrdd. 15-16. Sylwer ar yr odl afreolaidd rhwng
sygnau a mae. Noda Edwards
(DGIA, 230-1) fod motîff gwayw neu saethau serch na ellir eu tynnu
o'r galon i'w gael yn Le Roman de la Rose ac mewn
cerddi Ffrangeg eraill. 21. gorwyf ffurf bresennol / berffaith
y ferf gorfod yn yr ystyr 'gwneud', cymh. 109.5 a gw.
GPC 1481-2. 23-4. Yn y cwpled hwn, gwyn fy
myd yw goddrych hirbair, felly yr anwylyd sy'n
gyfrifol am y gwayw sy'n peri dioddefaint am amser hir i'r bardd. 26. wnâi'r Sylwer mai
a wna a geir yn fersiwn y Vetustus. O ran ystyr mae'r
naill ddarlleniad a'r llall yn bosibl, ond mae'r dystiolaeth yn gryfach o blaid
yr amser amherffaith. 29. Esyllt Gw. 125.8 a 14n. 30. aseth Llath flaenllym ar gyfer
rhwymo a sicrhau to gwellt. Ceiniog yw gwerth aseth yng Nghyfraith Hywel, ac
fe'i rhestrir gydag offer toi tai. (LlI 139.6) 33. mynawyd Offeryn bychan ar gyfer
tyllu lledr neu bren, a ddefnyddir yn bennaf gan grydd.