ko i ferch a welse fo ym mangor
1 Y verch dan yr aur llathrloyw
2 a welais hoen befrlais hoyw
3 yn aur or pen bwygilydd
4 yn rhiain wiw deuliw dydd
5 yngwrando salym balchnoe
6 ynghor Deniel Bangor doe
7 digon ir byd o degwch
8 deugur bryd fflur i brad fflwch
9 weled y w{en}verch wiwlwys
10 wi or dawn mav wywyr dwys
11 a sythochr gwaew i'm saethawdd
12 a sythdawd cymendawd cawdd
13 gwenwyn awch gwn vy nychu
14 gwyn {ei} ddigion gwlad von vu
15 nis tynn dyn dan wybr sygnay
16 y mewn y galon y may
17 nis goruc gof i guraw
18 nis gwnaeth lli{fiedi} gaeth llaw
19 ni wys i lliw gwiw gwawdradd
20 na llvn y dost arf a'm lladd
21 gorwyf om gwiw nwyf a'm gwedd
22 gorphwyll am ganwyll Gwynedd
23 gwae vyvy gwaew am hirbair
24 gwyn vy myd ail gwiwnef Mair
25 gwydn ynof gwaew devnownych
26 gwas prudd a wna'r grudd yn grych
27 gwniai'n dost gwenwyn a dal
28 gwaew llifaid gwaell o ofal
31 train yw ynof i hirgadw
32 trwyddedwr bron vriwdon vradw
33 trefnloes vynawyd cariad
34 triawch saeth vydd browdvaeth brad
35 truan mor glaf yw Davydd
36 trwydde{w} serch trwyddaw y sydd
Dauid ap Gwilim