{Co. I Ferch a barodd yr ymryson rhwng D.G. a G. Grug}
1 y verch yn yr avr lathr loyw
2 a gerais hoen gerdwvas hoyw
3 yn avr or pen begilidd
4 yn hriain wiw devliw dydd
5 yn gwrando salm valch noe
6 yng hor deunioel bangor ddoe
7 digon oedd ir byd o degwch
8 deigyr bryd flvr ai flwch
9 weled y veinver wiw lwys
10 wi or dawn mav weywyr dwys
11 a saith och yr gwayw im saythawdd
12 oieithawd kymhendawd kawdd
13 gwenwyn awch gwn mav nychv
14 gwenidogion glwad von vu
15 nis tyn dyn dan wybyr sygnae
16 y mewn y galon i mae
17 nis gorwyf nes i gvriaw
18 nis gwnnaeth llifedigaeth llaw
19 ni wis na lliw gwiw gwowd radd
20 nalhun y dost arf am lladd
21 gorwyf om gwawd nwyf am gwedd
22 gorfwyll am ganwyll gwynedd
23 gwae vy vy gwayw am hirbair
24 gwyn ymyd ail gwiw ne mair
27 gwinniai yn dost gwenwyn a dal
28 gwayw llivaid gwall oval
29 Esyllt bryd ai dyd er dic
30 asseth kledyr dwyfron yssic
31 trwm yw ynne i hirgadw
32 trwyddw y vron vriw don vradw
33 trevynloes mynawyd kariad
34 tri awch caeth vydd browdvaeth brad
35 truan mor glaf y davudd
36 trwyddew serch trwyddo y sydd
davudd gwilm¯ ai kant