1 Y ferch dan yr avr llathrloyw
2 a welais hoen befrlais hoyw
3 [98r] Yn avr o'r penbwygilydd
4 Yn rhiain wiw devliw dydd
5 Yn gwrando salm fachnoe
6 Ynghor daniel bangor doe
7 diogon i'r byd o degwch
8 devgvr bryd fflvr ei brad fflwch
9 Weled y wenferch wiwlwys
10 Wi or dawn mav wewyr dwys
11 A sythochr gwaew i'm saethawdd
12 A sythdod cymmhendod cawdd
13 Gwen fwyn wych gwn fy nychu
14 Gweledigion gwlad fon fv
15 Nis myn dan wybr sygnae
16 O mewn y galon y mae
17 Nis gorvg gof i gvraw
18 Nis gwnaeth llifedigaeth llaw
19 Nid oes na lliw gwiw gwawdradd
20 Na llvn ir dost arf am lladd
21 gorwyf i m gwiwnwyf am gwedd
22 gorphwyll am ganwyll gwynedd
23 [98v] Gwae fyfi gwaew a'm hirbair
24 Gwyn y myd yw gwiwne mair
25 Gwydn ynof gwaew devnawnych
26 Gwas prvdd a wna'r grvdd yn grych
27 Gwn iav n dost gwenwyn a dal
28 Gwayw llifeid a gwaell o ofal
31 Tra fynno yno i hirgadw
32 Treiddiwr bron friwdon fradw
33 Tr[ ] fynawyd cariad
34 triawch saeth fydd brawdfaeth brad
35 Trvan mor glaf yw Dafydd
36 Trwyddew serch trwyddaw y sydd
Da' ap Glm'