1 Y verch ynyr aur lathrloew
2 a gerais hoen gairw vais hoew
3 yn aur or penn pwy gilydd
4 yn Riain wiw dauliw dydd
5 yn gwrando salym Balchnod
6 ynghor bangor dainioel dod
7 digon ir byd o degwch
8 daigr bryd fflur i brad fflwch
9 [72] weled y wennferch wiwlwys
10 wior dyn mav waewyr dwys
11 a saith ochr gwaew am saethawdd
12 o sythwawd kymendawd kawdd
13 gwenwyn awch gwinav nychv
14 gwyn eiddigion gwlad von vu
15 nyd tynn dyn dan sygyngae
16 i mewn y galon i mae
17 nys gorvg gof i guraw
18 nys gwnaeth lladdedigaeth llaw
19 ny wnn na lliw gwiw gwawnradd
20 na llvn y dostaryf ym lladd
21 gwr wyf er gwiwnwyf i gwedd
22 gorffwyll am gannwyll gwynedd
23 gwae vi gwaew vyth am hirbair
24 gwyn y myd ne gwiw ne Mair
25 gwydn ynof gwaew daunawnych
26 gwas prudd a wnair grudd yn grych
27 gwae ni n dost gwengwyn a dal
28 gwaew llivaid gwall oval
29 Esyllt bryd ai dyd er dig
30 a saeth gledr ddwyfronn ysig
31 trwm yw ynof i hirgadw
32 trwy dewder bronn vriwdon vradw
33 trefnloes vynawyd kariad
34 tri awch saeth vyd brawdfaeth brad
35 tryan mor glaf yw davydd
36 trwyddaw serch trwyddaw a sydd
Davydd ap gwilym ai Kant
Ar kywydd hynn a wnaeth ymryson
gyntaf ymryson Rwng Davydd ap gwilim a gryffydd gryg