â â â Erfyn am ei Fywyd
1â â â Y fun glaer fwnwgl euraid
2â â â O Fôn gynt yn fwyn a gaid,
3â â â Nid oes ym obaith weithion
4â â â O'th wlad di, ddyn wythliw ton,
5â â â Ym Deinioel sant, trachwant trwch,
6â â â Ym dir rhydd am dor heddwch.
7â â â Ys diriaid nad ystyriais:
8â â â No'th gael, ni bu anoeth gais,
9â â â Ni bu anrheg na neges,
10â â â Eithr fy lladd, waeth ar fy lles.
11â â â Trist fûm na'th gawn, ddawn dduael;
12â â â Tristach, wyth gulach, o'th gael.
13â â â Gwae fi a wnaethost, gost gwyl:
14â â â Fy mynnu pan fûm annwyl.
15â â â Nid oeddud gall na phallud;
16â â â Ni bu dda ym dy rym drud.
17â â â Peraist annog fy nghrogi;
18â â â Pe'm carud, ni fynnud fi.
19â â â Rhyfalch oedd i Bab Rhufain
20â â â Fod gennyd, gwyn fy myd main.
21â â â Cymer dan gêl a welych,
22â â â Cymod am hyn, ddyn gwyn gwych,
23â â â A dod, feinir, ym ddirwy,
24â â â A phaid â'th gwyn, ddyn mwyn, mwy.
25â â â Chwarëus fuam, gam gae;
26â â â Chwerw fu ddiwedd y chwarae.
27â â â O buost, riain feinir,
28â â â Fodlon ym dan fedwlwyn ir,
29â â â Na phar, ddyn deg waneg wedd,
30â â â Grogi dillyn y gwragedd
31â â â Dros beri, ddyweddi ddig,
32â â â Dienyddu dyn eiddig.
33â â â Ym Mynyw, rwyf Wenhwyfar,
34â â â Ym Môn yr haeddaist fy mâr.
35â â â Fy mun, mi a fûm ynod;
36â â â Geri fu i mi fy mod.