Testun Golygedig: 128 - Erfyn am ei Fywyd

Fersiwn hwylus i'w argraffu

Erfyn am ei Fywyd

Y fun glaer fwnwgl euraid
O Fôn gynt yn fwyn a gaid,
Nid oes ym obaith weithion
4O'th wlad di, ddyn wythliw ton,
Ym Deinioel sant, trachwant trwch,
Ym dir rhydd am dor heddwch.
Ys diriaid nad ystyriais:
8No'th gael, ni bu anoeth gais,
Ni bu anrheg na neges,
Eithr fy lladd, waeth ar fy lles.

   Trist fûm na'th gawn, ddawn dduael;
12Tristach, wyth gulach, o'th gael.
Gwae fi a wnaethost, gost gŵyl:
Fy mynnu pan fûm annwyl.
Nid oeddud gall na phallud;
16Ni bu dda ym dy rym drud.
Peraist annog fy nghrogi;
Pe'm carud, ni fynnud fi.
Rhyfalch oedd i Bab Rhufain
20Fod gennyd, gwyn fy myd main.

   Cymer dan gêl a welych,
Cymod am hyn, ddyn gwyn gwych,
A dod, feinir, ym ddirwy,
24A phaid â'th gŵyn, ddyn mwyn, mwy.
Chwarëus fuam, gam gae;
Chwerw fu ddiwedd y chwarae.

   O buost, riain feinir,
28Fodlon ym dan fedwlwyn ir,
Na phar, ddyn deg waneg wedd,
Grogi dillyn y gwragedd
Dros beri, ddyweddi ddig,
32Dienyddu dyn eiddig.

   Ym Mynyw, rwyf Wenhwyfar,
Ym Môn yr haeddaist fy mâr.
Fy mun, mi a fûm ynod;
36Geri fu i mi fy mod.