Erfyn am ei Fywyd
Y ferch ddisglair â gwddf euraid
o Fôn a gafwyd yn fwyn gynt,
nid oes gennyf obaith yn awr
4 o'th wlad di-ferch wyth gwaith [disgleiriach na] lliw ton,
myn Deiniol sant, trachwant ysgeler-
[gael] tir rhydd imi oherwydd tor heddwch.
Mae'n anffodus nad ystyriais:
8 na'th gael (ni fu'n gais anodd)
ni fu anrheg na neges
(ac eithrio fy lladd) waeth er fy lles.
Bûm yn drist am na'th gawn, rhodd ag aeliau duon;
12 tristach, wyth gwaith yn gulach, [wyf] o'th gael.
Gwae fi [am yr hyn] a wnaethost, cost gwyliadwriaeth:
fy mynnu pan oeddwn yn annwyl [gennyt].
Nid oeddet yn gall na pheidiet;
16 ni fu dy rym beiddgar yn dda imi.
Peraist annog fy nghrogi;
pe baet yn fy ngharu, ni fynnet [fy nghael] i [felly].
Trahaus iawn fyddai i Bab Rhufain
20 fod gennyt ti, fy anwylyd fain.
Cymer yn gyfrinachol [yr hyn] a weli,
gwna gymod am hyn, ferch wen wych,
a rho, ferch, ddirwy imi,
24 a rho'r gorau i'th gwyn, ferch fwyn, mwyach.
Buom yn chwareus, atalfa feius;
chwerw fu diwedd y chwarae.
Os buost (forwyn fain a thal)
28 yn fodlon â mi dan lwyn o fedw ir,
paid ag achosi (ferch deg ag wyneb [gwyn fel] ton)
crogi anwylyd y gwragedd
yn hytrach nag achosi (cymar dig)
32 dienyddu dyn eiddigeddus.
Ym Mynyw, [y ferch â] balchder Gwenhwyfar,
ym Môn yr haeddaist fy ngwylltineb.
Fy merch, mi a fûm ynot ti;
36 bu'n chwerw imi fy mod [wedi gwneud hynny].