Nodiadau: 128 - Erfyn am ei Fywyd

Fersiwn hwylus i

GDG 82

Megis yn achos nifer o gerddi eraill Dafydd, mae arlliw cyfreithiol ar iaith a chynnwys y cywydd hwn. Ynddo y mae Dafydd yn cyfeirio at 'dor heddwch' (ll. 6) a fu rhyngddo a'r ferch, gan ddweud nad oes gobaith iddo bellach gael 'tir rhydd' (ll. 6). Mae'n amlwg fod perthynas rywiol wedi bodoli rhyngddynt, ond dywed y bardd nad oes dim ond drygioni wedi dod ohoni. Dywed i'r ferch fod yn fodlon â'r berthynas ar un adeg (ll. 28), ond ei bod bellach am weld ei grogi am yr hyn a wnaeth (ll. 17), gan awgrymu ei bod yn ei gyhuddo o'i threisio. Gan hynny, erfyn arni i gymodi ag ef ac i beidio â mynnu'r gosb eithaf (llau. 22 a 29–30). Daw'r cywydd i ben wrth i'r bardd atgoffa'r ferch unwaith eto o'u perthynas rywiol, gan ddweud mai chwerw iawn yw canlyniadau'r profiad hwnnw iddo ef.

Tynnodd Thomas Parry sylw at yr elfennau cyfreithiol sydd i'w gweld yn y cywydd hwn (GDG 508), a cheisiodd ei oleuo drwy ei gymharu ag adran o Gyfraith Hywel a geir yn Llyfr Colan ac yn Llyfr Blegywryd sy'n ymwneud â 'brad arglwydd' neu 'gynllwyn'. Dywedir yno y crogir y troseddwr oni bai ei fod yn cymodi â'r arglwydd ac yn talu dirwy a galanas ac y bydd hefyd yn colli tref ei dad (sef ei dir etifeddol). Ond gallai gadw tref ei dad yn sgil ymweliad â'r Pab: 'ac o'r kyrch lys y pab, a dyuot llythyr gantaw a dangosso y rydhau o'r pab, tref y tat a geiff', gw. Stephen J. Williams a J. Enoch Powell (gol.), Cyfreithiau Hywel Dda yn ôl Llyfr Blegywryd (Dull Dyfed) (ail argr., Caerdydd, 1961), 78 (llau. 15–17); cymh. Dafydd Jenkins (gol.), Llyfr Colan: y gyfraith Gymreig yn ôl hanner cyntaf llawysgrif Peniarth 30 (Caerdydd, 1963), 17. Awgrymodd Thomas Parry mai dyna sy'n esbonio'r cyfeiriad at y Pab yn ll. 19.

Fodd bynnag, erbyn y bedwaredd ganrif ar ddeg go brin y byddai'r rhan o'r gyfraith sy'n ymwneud â 'brad arglwydd' yn weithredol yn sir Fôn neu sir Geredigion (sef cartref y ferch a chartref Dafydd ei hun). At hynny, trosedd rhywiol yn erbyn merch sydd dan sylw yn y gerdd hon, ac nid 'brad arglwydd' neu 'gynllwyn'. Roedd adran sylweddol o Gyfraith Hywel yn ymwneud â merched, ac roedd elfennau niferus ohoni yn dal yn weithredol yn y bedwaredd ganrif ar ddeg, gw. Dafydd Jenkins a Morfydd E. Owen (gol.), The Welsh Law of Women (Cardiff, 1980), ac yn arbennig bennod R. R. Davies, 'The Status of Women and the Practice of Marriage in Late-Medieval Wales', 93–114. Yn ôl Cyfraith Hywel, ni ddienyddid troseddwyr rhywiol ac ni fyddent yn fforffedu eu tiroedd, ond fe allai hynny ddigwydd o dan y drefn Seisnig. Ymddengys fod y bardd yn fodlon derbyn dirwy (ll. 23), ac yn ôl Cyfraith Hywel roedd talu dirwy yn ddisgwyledig gan y sawl a gaed yn euog o dreisio merch, gw. The Welsh Law of Women, 200. Mae'n bosibl felly mai'r hyn a geir yn y cywydd hwn yw gwrthdaro rhwng gwahanol systemau cyfreithiol, fel sydd ym marwnad enwog 'Marwnad Siôn Eos' gan Ddafydd ab Edmwnd (OBWV cerdd 75). Os felly, ymddengys fod y bardd yn annog y ferch i ddilyn Cyfraith Hywel a derbyn dirwy yn hytrach na mynnu ei ddienyddio. Yn sicr, roedd y bedwaredd ganrif ar ddeg yn gyfnod a welodd gryn gymysgu rhwng y systemau cyfreithiol a fodolai yng Nghymru, gyda Chyfraith Hywel, Cyfraith Loegr a Chyfraith Eglwysig oll â rhan i'w chwarae (cymh. 'Y Ceiliog Bronfraith', 49). Wrth gwrs, byddai gan y llysoedd eglwysig yr hawl i ymwneud ag achosion o drosedd rhywiol, ac efallai mai dyna sy'n esbonio'r cyfeiriad yn ll. 19 wrth i'r bardd sôn am y Pab yng nghwmni'r ferch. Ond fel y dywed Gwyn Thomas (DGHP 168), mae ystyr rywiol amlwg i'r ymadrodd 'fod gennyd' (ll. 20), gan awgrymu bod creu darlun dychanol o berthynas rywiol â'r Pab hefyd yn rhan o fwriad y bardd yma.

Cynghanedd: croes 5 ll. (14%), traws 10 ll. (28%), sain 13 ll. (36%), llusg 8 ll. (22%).

Digwydd y gerdd hon mewn dros ugain o gopïau. Roedd wedi'i diogelu mewn tair ffynhonnell gynnar, sef Llyfr Gwyn Hergest (copi yn Wy 2 ac amrywiadau yn Pen 49), Llyfr Wiliam Mathew (copi yn Pen 49), a'r Vetustus (copi yn H 26). Ceir hefyd gopi pwysig yn CM 5 (nodir darlleniadau amrywiol ohono yn Pen 49). Ychwanegwyd hefyd ddalen fechan at Pen 49 sy'n cynnwys rhai llinellau ychwanegol nad oeddynt yn LlWM. Mae cryn amrywio o ran trefn y llinellau yn y llawysgrifau, ond gellir adnabod dau brif fersiwn. Trefn y fersiwn cyntaf a ddilynir yn y golygiad hwn, a'r drefn honno a geid yn CM 5 yn ôl pob tebyg, er bod y ddau gwpled cyntaf yn eisiau. Ond mae'n debyg mai difrod i'r llawysgrif sydd i gyfri am hynny. Yr un drefn yn y bôn a geir yn H 26 (o'r Vetustus), LlGC 560, a M 146, ond bod llau. 5–6 yn eisiau yn y copïau hyn. Trefn yr ail fersiwn yw 1–12, 17–18, 15–16, 27–32, 21–6, 19–20, 33–6 (ni cheir llau. 13–14 yn y fersiwn hwn). Dylid nodi nad yw'r ail fersiwn hwn i'w gael yn gyfan mewn unrhyw lawysgrif unigol, ond dyna'r drefn a awgrymir o gymharu'r llawysgrifau hyn: Pen 49 (o LlWM, felly hefyd gopïau Llywelyn Siôn), Wy 2 (o LlGH), BM 23, a Pen 93. Yn ogystal â llau. 13–14, sylwer bod llau. 11–12 a 15–16 yn eisiau o LlWM, llau. 11–12 a 21–4 yn eisiau o LlGH, a llau. 15–18 a 21–4 yn eisiau o BM 23 a Pen 93. Mae'r fersiwn hwn yn rhoi trefn ddigon derbyniol, ond gan nad ydyw i'w gael mewn unrhyw lawysgrif unigol a'i fod felly yn ddamcaniaethol i ryw raddau, penderfynwyd dilyn trefn CM 5, fel y gwnaed yn GDG. Ceir cwpled ychwanegol ar ddiwedd y gerdd mewn rhai llawysgrifau, e.e. Wy 2 (nid y copi o LlGH ond copi yn hytrach o fersiwn sy'n perthyn yn nes at y Vetustus): 'ai lles i ti morfydd llwyd / yspeilio gwas a bowliwyd', ond gwan iawn yw'r dystiolaeth o'i blaid.

4. O'th wlad di, ddyn wythliw ton   Darlleniad H 26 (o'r Vetustus) yw oth weleti wythliw ton, a cheir darlleniadau tebyg yn LlGC 560, M 146 a Pen 93. Ond mae tystiolaeth y llawysgrifau eraill yn gryf o blaid darlleniad y testun, sef darlleniad GDG.

5. Deinioel   Ffurf amrywiol ar Deiniol, sef Deiniol Sant (bl. 6g.), y gŵr y credid iddo sefydlu mynachlog Bangor yn Arfon, gw. WCD 191–2. Ar ffurf yr enw, gw. Henry Lewis, Yr Elfen Ladin yn yr Iaith Gymraeg (Caerdydd, 1943), 7, ac am gyfeiriadau pellach ato, gw. G 296 d.g. Danyel2. Ceir cywydd 'I Ddeiniol Bangor a'r Esgob Thomas Skeffington' gan Syr Dafydd Trefor, gw. GDT cerdd 14 a'r drafodaeth ar Ddeiniol ib. 188–92.

6. Ym dir rhydd   Nodir yn GDG 508: 'ym yw darlleniad y llsgrau. Ond amlwg mai am sydd eisiau, yn dilyn "gobaith" ll. 3'. Fodd bynnag, ceir synnwyr digon boddhaol drwy ddilyn y llawysgrifau. Ceir tir rhydd yn GPC 3504–5 gyda'r ystyr 'free land, freehold'. Nodir yno enghraifft o waith Lewys Glyn Cothi (GLGC 402 [183.50]) ac enghraifft o'r cyfieithiad Cymraeg o Statud Rhuddlan (o lawysgrif o'r 15g.). Ond mae'n debycach mai ystyr lai arbenigol megis 'tir diogel rhag y gyfraith' sydd yma.

tor heddwch   Ar yr ymadrodd hwn, gw. GPC 3524. Dyma'r enghraifft gynharaf a nodir yno.

7. Ys diriaid nad ystyriais   Ceir y darlleniad hwn yn H 26 (o'r Vetustus) a hefyd yn CM 5, LlGC 560 a M 146. Y darlleniad a awgrymir gan Pen 49 (o LlWM), Wy 2 (o LlGH), BM 23, a Pen 93 yw Diriaid fûm nad ystyriais. Ond y gystrawen ys + ansoddair yw'r un fwyaf hynafol (gw. GMW 140–1) a dyna'r darlleniad anos.

8. No'th gael   Dyma ddarlleniad Pen 49 (o LlWM), Wy 2 (o LlGH), CM 5, a M 146, sy'n golygu bod tystiolaeth gref iawn o'i blaid. Mae No'th gael... yn ddibynnol ar yr ansoddair cymharol waeth (ll. 10). Derbyniodd Thomas Parry ddarlleniad H 26 (o'r Vetustus), BM 23, LlGH 560, a Pen 93 ar gyfer rhan gyntaf y llinell a darllen O'th gael.... , gan ddiwygio ail ran y llinell, gw. y nodyn isod.

ni bu anoeth gais   Diwygiodd Thomas Parry yma gan ddarllen y bai annoeth gais, a'i ddilyn gan atalnod llawn. Yn sgil hynny, saif llau. 9–10 fel brawddeg ar wahan yn GDG. Ond mae llif y frawddeg mewn gwirionedd yn parhau dros lau. 8–10. Y ffurf anoeth a geir yn gyson yn y llawysgrifau, a digwydd y ffurf honno fel ansoddair yn yr ystyr 'rhyfedd, anarferfol, anodd', gw. GPC 149 a cf. 125.11n. Ond gan nad yw'r llawysgrifau'n gyson o ran dyblu n, mae'r darlleniad annoeth hefyd yn bosibl.

10. ar fy lles   Ceir nifer o enghreifftiau o'r ymadrodd ar l(l)es (ar fy lles, ar ei les, etc.) yn GPC 2156 sy'n dyddio o gyfnod Dafydd a chyn hynny. Yr ystyr a roddir yno yw 'to the advantage of, for the good of, for'.

11. ddawn dduael   Nid yw'r llinell hon yn y copïau sy'n tarddu o LlWM a LlGH. Ceir ddawn ddiwael yn H 26 (o'r Vetustus) a LlGH 560; a ddawn dduael / ddvael yn BM 23, CM 5, M 146, a Pen 93. Mae tystiolaeth y llawysgrifau felly'n tueddu i ffafrio ddawn dduael.

12. culach   Mae amrediad sylweddol o ystyron i cul, a sawl un yn bosibl yma: 'main, tenau; heb fod yn llydan neu'n eang; cyfyng, caeth; ... yn ffig. heb fod yn eangfrydig, crintach', gw. GPC 629.

13. gŵyl   Gall fod yn ansoddair 'llednais, gwylaidd, etc.', ond yma cymerir mai enw ydyw yn yr ystyr 'gwyliadwraeth, gwarchodaeth, gwylfa nos' (GPC 1759), gan gyfeirio at y cyfnod yr oedd y bardd yn caru â'r ferch.

15. nid oeddud   Ni cheir y llinell hon yn Pen 49 (o LlWM) nac yn llawysgrifau Llywelyn Siôn, nac ychwaith yn BM 23 a Pen 93. Darlleniad Wy 2 (o LlGH) yw Nid oeddwn a'r darlleniad a awgrymir gan y Vetustus (a CM 5, M 146 a LlGH 560) yw Ni fuost. Ond yn y ddalen ychwanegol yn Pen 49 ceir nid oeddit gall na phallud. Mae darlleniad y testun yn anos darlleniad na ni buost, ac mae'n rhoi cyfri am y darlleniadau yn Wy 2 (o LlGH) ac yn y ddalen ychwanegol yn Pen 49. Gellid yn hawdd fod wedi'i newid i oeddwn yn Wy 2 (o LlGH) ac ni buost yn y llawysgrifau eraill, efallai er mwyn osgoi'r bai gormodd odlau, gw. CD 300–1.

18. carud   Darlleniad GDG yw caffud, a hynny ar sail darlleniad Pen 49 (o LlGH) kavut a darlleniadau llawysgrifau Llywelyn Siôn (Ll 47 a Ll 134) kaffid. Ond carud neu ffurfiau tebyg sydd i'w cael yn yr holl lawysgrifau eraill.

19. Rhyfalch oedd i Bab Rhufain / Fod gennyd   Yn hytrach na rhyfalch, mae Pen 49 (o LlWM) a llawysgrifau Llywelyn Siôn yn darllen rhyfedd, a dyna yw darlleniad GDG. Ond mae tystiolaeth y llawysgrifau eraill (gan gynnwys y copïau o LlGH a'r Vetustus a hefyd CM 5) o blaid rhyfalch. Roedd ystod eang o ystyron yn bosibl i balch yn y cyfnod hwn: 'gwych, hardd, aruchel, urddasol, cadarn, dewr' a 'trahaus, ffroenuchel, chwyddedig, coegfalch, hunanol', gw. GPC 251. Anodd penderfynu pa ystyr sydd fwyaf addas. Ar y cyfeiriad at y Pab, gw. y nodyn cefndir uchod. Er mai yn Avignon, bellach yn Ffrainc, yr ymgartrefai'r saith pab a etholwyd rhwng 1305 a 1378, roeddynt oll yn parhau i fod yn esgobion Rhufain a pharheid i ddefnyddio'r ymadrodd Pab Rhufain amdanynt. Tebyg mai ergyd rywiol sydd i fod gennyd, gw. y nodyn cefndir uchod.

21. dan gêl  Nodir yr ymadrodd hwn yn GPC 455 gyda sawl enghraifft o gyfnod Dafydd a chyn hynny. Yr ystyron a roddir yno yw 'in concealement, concealed, hidden, in secret'.

23. dod ... ym ddirwy   Mae nifer o ddarlleniadau gwahanol yn y llawysgrifau: Pen 49 (o LlWM) dot ... ynn ddirwy, H 26 (o'r Vetustus) dos ... yn nirwy, CM 5 dod ... ym ddirwy, Ll 47 a dod ... ym ddirwy, LlGC 560 dôs ... mewn dirwy, M 146 dos ... yn irwy, Wy 2 (nid o LlGH) dos ... ar ddirwy. Nid yw'r llinell hon yn BM 23, Pen 93 na Wy 2 (o LlGH). Rhwng popeth, mae'r dystiolaeth gryfaf o blaid dod ... ym ddirwy, er bod dadl hefyd o blaid dos ... yn nirwy (darlleniad GDG). Ymddengys fod y bardd yn gofyn i'r ferch ei ddirwyo yn hytrach na mynnu ei ddienyddio, gw. ymhellach y nodyn cefndir uchod.

24. cwyn   Yma mewn ystyr gyfreithiol.

25. fuam   Ar buam, ffurf 1 ll.grff. bod, gw. GMW 137.

cam gae   Mae ystod eang o ystyron i cae 'gwrych, sietin, ..., maes, ... atalfa, rhwystr', 'gwäeg, bwcl, tlws', 'talaith, gwisg am ben...', 'rhwymyn, gwregys', gw. GPC 382. Fe allai fod yn gyfeiriad at y cae bedw a roddid yn arwydd o gariad, cymh. 'Yr Het Fedw' (113). Nodir defnydd arall o'r gair gan Gwyn Thomas (DGHP 168), sef gwraig ymron ei chae am wraig sydd ar fin esgor ar blentyn, ac nid amhosibl fod yr ystyr honno'n berthnasol yma.

29. na phâr   Dyma ddarlleniad Pen 49 (o LlWM), Wy 2 (o LlGH), BM 23, a Pen 93. Mae H26 (o'r Vetustus) a rhai o'r llawysgrifau gogleddol eraill yn awgrymu'r darlleniad na phair. Ai gwahaniaeth tafodieithol sydd i gyfri am hynny tybed?

31. dros   Yr ystyr yma yw 'yn lle, yn hytrach na', gw. GPC 3616 a cymh. 50.11.

ddyweddi ddig   Mae dyweddi dig hefyd yn ddarlleniad posibl yma. Cymerir mai'r ferch yw'r ddyweddi, ond o ddarllen dyweddi dig dylid nodi'r ystyr gyfreithiol: 'it appears that dyweddi did not mean "betrothal", but rather the whole process by which a woman was united with a man', T. M. Charles Edwards, 'Nau Kynywedi Teithiauc', yn Dafydd Jenkins a Morfydd E. Owen (gol.), The Welsh Law of Women (Cardiff, 1980), 27.

32. Dienyddu dyn eiddig   Darlleniad GDG yw Dienyddu'r dyn eiddig. Ond yn Pen 49 (o LlWM) a'r copïau tebyg gan Llywelyn Siôn (Ll 47 a Ll 134) yn unig y ceir y fannod.

33. Mynyw   Enw cyffredin yn y farddoniaeth ar Dyddewi.

rwyf Wenhwyfar   Darlleniad Wy 2 (o LlGH) yw rwyf gwenhwyvar, a thebyg yw darlleniad BM 23 a Pen 93. Ond mae Pen 49 (o LlWM), H 26 (o'r Vetustus), CM 5, LlGC 560, a M 146 yn ffafrio treiglo'r enw priod. Byddid yn disgwyl i rhwyf fod naill ai'n enw benywaidd neu'n ansoddair os yw'n achosi treiglad (cf. TC 108–9), ond enw gwrywaidd yn unig ydyw yn ôl GPC 3114 d.g. rhwyf3 'rhwysg, rhodres, balchder, rhyfyg' (lle nodir yr enghraifft hon). Ond anodd iawn yw cael sicrwydd ynglyn â chenedl enwau yn y cyfnod hwn, ac felly dilynwyd pwys tystiolaeth y llawysgrifau a chadw'r ffurf dreigledig. Fodd bynnag, sylwer bod testun H 26 yn awgrymu y gallai'r treiglad fod yn ganlynaid i gamddeall ergyd y ffurf rwyf: ym Mynyw'r wyf Wenhwyvar. Ar le Gwenhwyfar mewn llenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol, gw. TYP3 376–80 ac O. J. Padel, Arthur in Medieval Welsh Literature (Cardiff, 2000), 115–17. Fe'i henwir hi'n gyson fel gwraig Arthur yn y chwedlau (e.e. 'Culhwch ac Olwen', 'Peredur', 'Owain', a 'Geraint'). Nid enwir hi unwaith gan Feirdd y Tywysogion (ond gw. GLlF 152 [9.11n]), ac ar wahân efallai i'r gerdd 'Ymddiddan Melwas a Gwenhwyfar', fe all mai yng ngwaith Dafydd y ceir y cyfeiriadau uniongyrchol cynharaf ati mewn barddoniaeth Gymraeg (Padel, 115). Yn ogystal â'r enghraifft a drafodir yma, mae'n debyg ei bod yn cael ei chrybwyll yn 'Morfudd fel yr Haul' (gw. 111.12n) a hi yw '[m]erch Gogrfan Gawr' yn 'Y Ffenestr' (gw. 65.22n). Erbyn y 14g. y mae'n debyg bod y stori amdani fel godinebwraig yn hysbys yng Nghymru, ac fel y noda Padel (115) y mae'r enghraifft hon yn ei gosod 'in a context of adultery'. Ond roedd Gwenhwyfar hefyd yn enw personol yng Nghymru'r 14g., e.e. Gwenhwyfar wraig Hywel ap Tudur ap Gruffudd o Goedan ym Môn a ganmolwyd gan Ronw Gyriog a Mab Clochyddyn (GGrG cerddi 2 a 6). Nid cwbl amhosibl felly mai enw'r ferch yn y gerdd yw Gwenhwyfar, ond erys hynny'n annhebygol.

35. ynod   Nodir yn GDG 508: 'Amhers. yn ddiau, cyfystyr ag yno, nid 2 bers.'. Ond mae'n debyg mai'r ystyr rywiol a gyfleir gan y ffurf ail berson sy'n fwyf addas, fel a nodir yn Thomas (DGHP, 168). Ar ynod, gw. GMW 59–60.

36. Geri fu i mi fy mod   Darlleniad GDG yw A geri fu i mi fy mod (rhaid cywsagu fu i er mwyn hyd y llinell). Seiliwyd hwnnw ar y copi o LlWM yn Pen 49: a geri vu mi vymot (ond cymh. Ll 47 a Ll 134 geri a vy mi vy mod). Ond gan nad yw'r A agoriadol i'w chael yn unrhyw un o'r llawysgrifau eraill, penderfynwyd ei hepgor yma. Mae Geri yw ... hefyd yn ddarlleniad posibl. Ar geri 'bustl, coler', gw. GPC 1394. Nodir y ddihareb Cyn chwerwed a'r geri yn D d.g. geri a cheir yr ymadrodd bystlach na'r geri yn nychan Trahaearn Brydydd Mawr i Gasnodyn, gw. GGDT 111 (13.61).