â â â Pererindod Merch
1â â â Gwawr ddyhuddiant y cantref,
2â â â Lleian aeth er llu o nef
3â â â Ac er Non, calon a'i cêl,
4â â â Ac er Dewi, Eigr dawel,
5â â â O Fôn deg, poed rhwydd, rhegddi
6â â â I Fynyw dir, f'enaid i,
7â â â I geisio, blodeuo'r blaid,
8â â â Maddeuaint, am a ddywaid,
9â â â Am ladd ei gwas dulas dig,
10â â â Penydiwr cul poenedig.
11â â â O alanas gwas gwawdferw
12â â â Yr aeth, oer hiraeth, ar herw.
13â â â Greddf fföes gruddiau ffion.
14â â â Gadewis fy newis Fôn.
15â â â Crist Arglwydd, boed rhwydd, bid trai,
16â â â Gas, a chymwynas, Menai.
17â â â Llifnant, geirw luddiant guraw,
18â â â Llyfni, bo hawdd drwyddi draw.
19â â â Y Traeth Mawr, cludfawr air clod,
20â â â Treia, gad fyned trwod.
21â â â Y Bychan Draeth, gaeth gerrynt,
22â â â Gad i'm dyn gwyn hyn o hynt.
23â â â Darfu'r gweddïau dirfawr:
24â â â Digyffro fo Ertro fawr.
25â â â Talwn fferm porth Abermaw
26â â â Ar don drai er ei dwyn draw.
27â â â Gydne gwin, gad, naw gwaneg
28â â â Dysynni, i dir Dewi deg.
29â â â A dwfn yw tonnau Dyfi,
30â â â Dwr rhyn, yn ei herbyn hi.
31â â â Rheidol, gad er d'anrhydedd
32â â â Heol i fun hael o fedd.
33â â â Ystwyth, ym mhwyth, gad ym hon,
34â â â Dreistew ddwfr, dros dy ddwyfron.
35â â â Aeron, ferw hyson hoywserch,
36â â â Gad trwod fyfyrglod ferch.
37â â â Teifi deg, tyfiad eigiawn,
38â â â Gad i'r dyn gadeirio'r dawn.
39â â â Durfing drwy'r afon derfyn
40â â â Yr êl ac y dêl y dyn.
41â â â Mau hirffawd, mae ym mhorffor,
42â â â Os byw, rhwng Mynyw a môr.
43â â â Os hi a'm lladdodd, oes hir,
44â â â Herw hylithr, hwyr yr holir.
45â â â Maddeuaint Mair, neddair nawdd,
46â â â I'm lleddf wylan a'm lladdawdd.
47â â â Diau, a mi a'i diaur,
48â â â Minnau a'i maddau i'm aur.