Pererindod Merch
Arglwyddes [yn] y cantref [hwn], [un sy'n cynnig] cysur,
[dewisodd] fynd [megis] lleian er mwyn y llu nefol
ac er mwyn Non, y mae [fy] nghalon yn cadw hyn yn gyfrinach,
4 ac er mwyn Dewi, [un] wylaidd [megis] Eigr,
o sir Fôn deg, bydded hwylus [y daith], ac yn ei blaen
i dir Mynyw, fy anwylyd,
er mwyn ceisio maddeuant,
8 [bydd] ffyniant i'w chefnogwyr oherwydd [ei] haddewid,
am [iddi] ladd ei gwasanaethwr, [un ac arno olwg] guriedig a
blin,
dioddefwr eiddil llawn doluriau.
Yn iawn am lofruddio llanc byrlymus ei awen
12 yr aeth ar ei hynt, garw yw'r golled [ar ei ôl].
Ciliodd [yr un a chanddi] ruddiau [o liw] ffion yn chwim.
Gadawodd yr un ddethol yn fy ngolwg sir Fôn.
Crist Arglwydd, bydded [dwr] garw Menai yn garedig ac yn
gymwynasgar
16 [a] bydded yn isel.
Llifeiriant Llyfni [ac] ergydion ei thonnau [yn gyfrwng]
rhwystro,
bydded hwylus [iddi fyned] drwyddi ar ei hynt.
Y Traeth Mawr, cludir ei fri a'i glodydd ymhell,
20 treia, caniatâ [iddi] fyned trwot.
Y Traeth Bychan [a'i] lifeiriant caethiwus,
caniatâ i'm lodes hardd y siwrnai hon.
Cwblhawyd gweddïau taer [ar ei rhan]:
24 bydded Artro fawr yn llonydd.
Gwobrwywn wasanaeth porthladd Abermo
am ei chludo draw dros ddwr isel.
Caniatâ, Dysynni a'i thonnau niferus,
28 i'r [un] unlliw â'r gwin [fyned] i wlad Dewi.
Dwfn hefyd yw tonnau Dyfi
[a'u dwr] rhewllyd yn ei herbyn.
Rheidol, er mwyn dy enw da,
32 caniatâ lwybr i'r ferch [sy'n rhoi ei] medd yn rhad.
Ystwyth a'i dyfroedd dwfn a grymus, yn rhodd,
er fy mwyn caniatâ i hon [fyned] dros dy donnau.
Aeron, gad trwot ferch [sy'n destun] clodydd cywrain,
36 [sef] bwrlwm soniarus [un] nwyfus ei serch.
Teifi hardd, tarddiad [dwr] y môr,
caniatâ helaethu bendithion i'r ferch.
Yn ddiogel trwy'r afon sy'n ffin
40 y bydded i'r ferch gael mynd a dychwelyd.
[Bydd] tynged yn sicr o'm plaid, mae [mewn gwisg o] borffor,
os [caf] fyw, rhwng Mynyw a'r môr.
Os lladdodd hi fi, dros gyfnod hirfaith,
44 herwriaeth sydyn [a ddaw i'w rhan], edliwir [hynny iddi] yn
hir.
[Bydded] maddeuant Mair [a'i] llaw [llawn] bendithion
i'r un wylaidd [a phrydferth megis] gwylan a'm lladdodd.
Heb os byddaf yn maddau i'm hanwylyd
48 a [hefyd] yn cyhoeddi pa mor ddieuog ydyw.